Criwiau wedi brwydro tân ym Morfa Conwy nos Sadwrn
Criwiau wedi brwydro tân ym Morfa Conwy nos Sadwrn
Roedd criwiau tân wedi delio â thân mawr yn ardal Morfa Conwy nos Sadwrn, gyda thrigolion lleol yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.
Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gadarnhau bod criwiau'n bresennol yn yr ardal wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad nos Sadwrn.
Digwyddodd y tân yng Nghlwg Golff Conwy.
Roedd y gwasanaeth tân hefyd wedi apelio ar aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal er mwyn caniatáu i'r criwiau brys fynd i'r afael â'r tân.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.
Mewn datganiad, dywedodd y gwasanaeth nos Sadwrn: "Mae ein criwiau ar hyn o bryd yn delio â thân ym Morfa Conwy.
"Rydym yn cynghori trigolion yn yr ardal gyfagos i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.
"Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal gan fod y gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad.
"Diolch am eich cydweithrediad."
'Tristwch mawr'
Mewn datganiad yn hwyrach ddydd Sul fe gadarnhaodd y clwb golff nad oedd neb wedi eu hanafu.
Dywedodd y clwb: "Gyda thristwch mawr rhaid i ni rannu bod tân difrifol wedi digwydd yn y clwb neithiwr, gan arwain at ddifrod sylweddol i'r adeilad.
"Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym a'u gwaith caled drwy gydol y nos, ac maent yn parhau ar y safle yn delio â'r digwyddiad.
"Ar hyn o bryd, nid yw'r achos yn hysbys ac ni fyddwn yn dyfalu tra bod ymchwiliadau swyddogol yn digwydd.
"Am resymau diogelwch, mae'r cwrs golff a holl gyfleusterau'r clwb ar gau ar hyn o bryd.
"Mae'r gwasanaethau brys wedi gofyn yn benodol nad yw aelodau, ymwelwyr a'r cyhoedd yn mynychu safle'r clwb o dan unrhyw amgylchiadau nes bod y safle wedi'i ddatgan yn ddiogel. Gwaherddir mynediad i'r tiroedd a'r adeiladau yn llym.
"Rydym yn gwybod y bydd y newyddion hwn yn sioc enfawr i'n haelodau, ymwelwyr a'r gymuned leol.
"Ein blaenoriaeth gyntaf yw diogelwch a chefnogi'r gwasanaethau brys.
"Hoffem estyn diolch o galon i bawb sydd wedi cysylltu heddiw i gynnig negeseuon o gefnogaeth.
"Mae'n golygu llawer iawn i bawb yng Nghonwy.
"Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.
"Diolch am eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn i Glwb Golff Conwy."