Criwiau yn brwydro tân ym Morfa Conwy nos Sadwrn

Criwiau yn brwydro tân ym Morfa Conwy nos Sadwrn

Roedd criwiau tân yn delio â thân mawr yn ardal Morfa Conwy nos Sadwrn, gyda thrigolion lleol yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gadarnhau bod criwiau'n bresennol yn yr ardal wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad nos Sadwrn.

Digwyddodd y tân yng Nghlwg Golff Conwy.

Mae'r gwasanaeth tân hefyd wedi apelio ar aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal er mwyn caniatáu i'r criwiau brys fynd i'r afael â'r tân.

Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.

Image
Llun: John Broadhurst
Llun: John Broadhurst

Mewn datganiad, dywedodd y gwasanaeth nos Sadwrn: "Mae ein criwiau ar hyn o bryd yn delio â thân ym Morfa Conwy.

"Rydym yn cynghori trigolion yn yr ardal gyfagos i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

"Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal gan fod y gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad.

"Diolch am eich cydweithrediad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.