Corff wedi'i ddarganfod wrth chwilio am y plentyn tair oed Noah Woods

Noah Woods

Mae corff plentyn wedi'i ddarganfod wrth chwilio am Noah Woods, bachgen tair oed, a aeth ar goll o bentref Brantham yn Suffolk, meddai'r heddlu.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y ffaith bod corff plentyn wedi’i ganfod fel achos anesboniadwy ond nad yw’n amheus.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Tom Pearse: “Yn anffodus, mae’r tîm yma wedi dod o hyd i gorff plentyn yn Decoy Pond yn Brantham y prynhawn yma.

“Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto. Mae teulu Noah Woods wedi cael gwybod am y datblygiadau hyn.

“Ar hyn o bryd, rydym yn trin y ffaith bod y corff wedi’i ganfod fel achos anesboniadwy ond nad yw’n amheus. Bydd y crwner yn cael gwybod am y datblygiad hwn.”

Cafodd Noah ei weld am 15:00 brynhawn Mawrth 15 Medi, ar ôl iddo “wahanu” oddi wrth aelod o'i deulu mewn parc ym Merriam Close.

Roedd adroddiadau bod Noah wedi rhedeg i ffwrdd ar hyd llwybr cul wrth ymyl y parc i gyfeiriad ystâd dai newydd.

Roedd Heddlu Suffolk wedi dweud nad oedd yn siarad, ei fod wedi colli rhywfaint o'i glyw a'i fod yn y broses o gael asesiad ar gyfer awtistiaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.