Cyhuddo dyn wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn rhewgell ym Morthcawl
Mae dyn wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn rhewgell ym Mhorthcawl.
Fe wnaeth Heddlu'r De fynd i gyfeiriad yn y dref am 13.45 ddydd Mawrth yn sgil pryderon am les menyw.
Y gred yw fod menyw yn ei 80au wedi ei darganfod yn farw mewn rhewgell yn y cyfeiriad.
Mae Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.