Corff menyw o Sir Gâr a fu farw yn Awstralia ar ei ffordd yn ôl i Gymru
Mae teulu menyw o Lanybri yn Sir Gâr a fu farw wedi gwrthdrawiad car yn Awstralia wedi dweud bod ei chorff bellach ar ei ffordd yn ôl i Gymru.
Roedd mwy na £40,000 wedi cael ei godi drwy wefan GoFundMe i ddod â chorff Annie Evans-Lewis yn ôl adref. Roedd Annie wedi symud i Perth i ddechrau bywyd newydd gyda’i chariad.
Dywedodd heddlu talaith Gorllewin Awstralia fod y fenyw 21 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad am 15:30 ddydd Sadwrn, 23 Mai.
Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol mewn Suzuki Grand Vitara a chafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Perth, lle bu farw'n ddiweddarach.
Mewn neges bythefnos ar ôl ei marwolaeth, dywedodd ei theulu fod “Annie wedi dechrau ei thaith yn ôl i Gymru, lle byddwn ni o’r diwedd yn gallu ei rhoi i orffwys”.
“Fedrwn ni ddim mynegi pa mor anodd fyddai hyn wedi bod heb y gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan bob un ohonoch chi.
"Rydych chi wedi ein helpu i ddod â hi adref.”
Dywedodd y teulu y byddai’r arian yn mynd at dalu costau’r cartref angladdau yn Awstralia, cludo corff Annie yn ôl i Gymru, a thalu costau’r angladd yng Nghymru.
Mewn neges gynharach ar 30 Mai, dywedodd y teulu eu bod nhw wedi gallu hedfan i Awstralia i ymweld â’r fferm lle bu Annie’n byw a gosod blodau yn y fan lle digwyddodd y gwrthdrawiad.
Roedd Annie wedi dioddef o liwcemia yn blentyn. Roedd hi wedi symud i Awstralia ym mis Medi y llynedd gyda’i chariad Cai James i weithio i’r cwmni tyfu grawn CBH.
Dywedodd ei chariad Cai, 22 oed, ei fod wedi dychmygu dyfodol lle’r oedd “y ddau ohonom yn hen ac yn gwylio ein hwyrion yn rhedeg o gwmpas”.
"Hi oedd popeth a gyda hi wedi mynd, dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud â mi fy hun,” meddai.
Mewn teyrnged ar ôl ei marwolaeth, dywedodd y teulu fod y boen oedden nhw’n ei theimlo “yn annisgrifiadwy”.
“Roedd Annie yn ferch, wyres, chwaer, nith, cyfnither, cariad a ffrind annwyl i lawer,” medden nhw.
“Bydd hi bob amser yn cael ei chofio fel y person mwyaf egnïol, anhrefnus, doniol, cariadus, caredig a diymhongar.
“Bydd yr arian sy’n cael ei godi drwy’r dudalen hon yn mynd tuag at y broses o’i chael hi adref i Gymru ar gyfer ei hangladd.
“Mae hyn yn cynnwys ffioedd ail-wladoli a gofal angladdol yn Awstralia, costau’r angladd gartref, hedfan y teulu i Awstralia ac yn ôl, ac unrhyw anghenion eraill i’r teulu yn ystod y broses.
“Bydd unrhyw gyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
“Rydym ni eisiau cael ein merch adref, i ddathlu ei bywyd a’i chymeriad, ac i ddangos iddi’r cariad roedd hi bob amser yn ei ddangos i ni.”
