Corff dyn wedi ei ddarganfod yn yr Afon Gwy ym Mhowys
Mae corff dyn wedi ei ddarganfod yn yr Afon Gwy ym Mhowys nos Fawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Y Clas-ar-Wy (Glasbury) am 6.30 yn y nos wedi adroddiadau bod dyn ifanc 18 oed wedi mynd mewn i'r afon.
Fe ddaeth Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Achub Mynydd a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu i'r safle i chwilio amdano.
Ond yn ddiweddarach fe ddaethon nhw o hyd i gorff dyn.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau yn yr ardal ac mae'r heddlu yn gofyn i bobl gadw draw tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Mae'r llu hefyd yn dweud bod eu meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y dyn sydd wedi marw.