Corff Ann Widdecombe wedi’i ganfod bron i 24 awr ar ôl ymosodiad
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn gwyn ar ôl dweud eu bod yn credu i’r cyn-AS ac ASE, Ann Widdecombe ddioddef ymosodiad yn ei chartref bron i 24 awr cyn i’w chorff gael ei ddarganfod.
Cafodd Ann Widdecombe, 78 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Haytor ar Dartmoor am tua 11.40 fore Iau ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw bellach yn credu ei bod wedi dioddef ymosodiad am tua 12.30 ddydd Mercher.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol yr heddlu, Matt Longman, fod ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ond nad ydyn nhw’n credu bod perygl ehangach i’r cyhoedd.
Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn symud yn gyflym wrth i’r heddlu chwilio am un dyn sydd dan amheuaeth mewn cysylltiad â’r achos.
Mae dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Ann Widdecombe ddydd Gwener wedi’i ryddhau o’r ddalfa ac nid yw bellach yn rhan o’r ymchwiliad, meddai’r heddlu.
Cafodd y dyn ei arestio ddydd Gwener mewn cyfeiriad yn Newton Abbot yn Nyfnaint, ond fe gadarnhaodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw ddydd Sadwrn ei fod wedi’i ryddhau o’r ddalfa.
Roedd Ann Widdecombe wedi gwasanaethu fel gweinidog carchardai Ceidwadol cyn dod yn ASE dros Blaid Brexit ac yn llefarydd ar ran Reform UK.
Cymerodd ran hefyd mewn rhaglenni teledu fel Strictly Come Dancing a Celebrity Big Brother.
Roedd Ms Widdecombe wedi ymddangos ar TalkTV ddydd Mercher, y diwrnod cyn iddi gael ei chanfod yn farw.
Roedd disgwyl iddi hefyd ymddangos ar raglen Matt Allwright ar Channel 5 y prynhawn hwnnw, ond ni wnaeth ymddangos.
Yn ôl ITV, ni chafodd tîm y rhaglen ymateb pan geisiodd gysylltu â hi drwy Zoom, dros y ffôn a drwy negeseuon.
‘Symud yn gyflym iawn’
Cafodd yr heddlu eu galw i gartref Ann Widdecombe yn Haytor, ger Newton Abbot, am 11.40 fore Iau.
Fe ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Matt Longman: “Ein blaenoriaeth o hyd yw adnabod y rhai sy’n gyfrifol a sicrhau bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn cael ei harchwilio’n drylwyr.
“Mae ditectifs yn parhau i gynnal nifer o ymholiadau fel rhan o’r ymchwiliad sy’n mynd rhagddo ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i ganfod yr holl amgylchiadau ynglŷn â’r digwyddiad.”
“Rydym yn defnyddio’r holl adnoddau angenrheidiol i ganfod yn union beth sydd wedi digwydd,” meddai.
“Byddwn yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, waeth pa mor ddibwys y gallai ymddangos, i ddod ymlaen a siarad â ni.
“Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth pan fyddwn yn gallu gwneud hynny.
“Yn y cyfamser, byddwn yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ynglŷn â’r hyn a allai fod wedi digwydd, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Gallai hynny nid yn unig niweidio ein hymchwiliad, ond mae hefyd yn peri gofid mawr i deulu a ffrindiau Ms Widdecombe.”
Dywedodd yr heddlu fod teulu Ann Widdecombe wedi gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu.
Mae porth digwyddiad mawr wedi’i sefydlu er mwyn i bobl gyflwyno gwybodaeth, lluniau neu fideos i’r heddlu.
Mae modd hefyd darparu gwybodaeth yn ddienw i’r elusen annibynnol Crimestoppers.