Comisiynydd Heddlu'r Gogledd yn gwrthwynebu'r cynnig i greu heddluoedd rhanbarthol mawr

Andy Dunbobbin

Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru wedi lleisio ei wrthwynebiad i gynnig y dylai lluoedd yr heddlu uno'n lluoedd mwy eu maint - gan gynnwys un llu mawr dros Gymru gyfan.

Mae'r alwad i gyfuno lluoedd wedi dod gan Syr Mark Rowley, Comisiynydd Heddlu'r Met.

Dywedodd fod adnoddau'n cael eu gwastraffu wrth ariannu 43 o heddluoedd unigol; gan ddadlau o blaid wyth i 10 o heddluoedd rhanbarthol mwy.

O dan ei gynlluniau, byddai un llu'n cynrychioli Cymru.

Ond mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, Andy Dunbobbin, a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Sir Caer, Cumbria, Sir Gaerhirfryn, a Glannau Merswy, y byddai cyfuno lluoedd ar raddfa fawr "yn gostus, yn gymhleth ac yn achosi aflonyddwch, gan dynnu arweiniaeth, adnoddau a sylw oddi ar blismona rheng flaen am flynyddoedd."

"Ar adeg pan ofynnir i heddluoedd wneud mwy gydag adnoddau llai, mae gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd - o bosib - ar ailstrwythuro plismona yn flaenoriaeth anghywir.

"Mae pob punt a gaiff ei gwario ar ad-drefnu yn bunt na chaiff ei gwario ar gadw pobl yn ddiogel."

'Plismona lleol cryf'

Wrth siarad gydag asiantaeth newyddion y Press Association, dywedodd Syr Mark Rowley y byddai'r cynigion yn helpu i gynyddu nifer yr swyddogion sy'n cerdded y strydoedd.

Dywedodd: “Mae'r gwaith rydym am ei wneud yn seiliedig ar ddull sy'n dechrau o'r gwaelod i fyny. 

"Mae'n ymwneud â phlismona lleol cryf. Dyna'r sylfaen i bopeth arall.

“Ar hyn o bryd, nid yw mor gryf ag y dylai fod. Y rheswm am hynny yw bod troseddau'n dod yn fwy cymhleth, felly mae angen mwy o sgiliau arbenigol i ymdrin â nhw.”

Ond gwrthod hyn wnaeth datganiad Comisiynwyr gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

'Atebolrwydd lleol'

Yn eu datganiad, ychwanegodd y Comisiynwyr: "Nid oes tystiolaeth bod mwy yn golygu gwell yn awtomatig. Mae ein cymunedau'n dweud wrthym yn rheolaidd am bwysigrwydd cysylltiadau lleol, gwybodaeth ac atebolrwydd lleol.

"Mae'r Gogledd Orllewin eisoes yn elwa o gydweithio cryf, sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â bygythiadau rhanbarthol a chenedlaethol wrth gadw'r cysylltiadau lleol y mae cymunedau'n eu gwerthfawrogi ac yn dibynnu arnynt.

"Yr hyn sydd ei angen ar blismona nawr yw buddsoddiad mewn swyddogion, staff, technoleg a gwasanaethau dioddefwyr, nid blynyddoedd o aflonyddwch strwythurol.

"Mae cymunedau ledled Sir Caer, Cumbria, Sir Gaerhirfryn, Glannau Merswy a Gogledd Cymru yn wynebu heriau gwahanol ac yn haeddu plismona sy'n ymatebol i'w hanghenion lleol.

"Rydym yn annog y Llywodraeth i ganolbwyntio ar gryfhau plismona cymdogaeth a chyflawni diwygiad ystyrlon, yn hytrach na mynd ar drywydd uno heddluoedd sy'n peryglu gwanhau'r cysylltiad rhwng plismona a'r cyhoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.