Comisiwn newydd i ystyried y posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i ystyried dyfodol cyfansoddiadol y wlad, gan gynnwys y posibilrwydd o annibyniaeth.
Bydd y corff annibynnol yn edrych ar dri opsiwn ar gyfer dyfodol Cymru - datganoli pellach, Teyrnas Unedig ffederal, neu annibyniaeth.
Y Fonesig Menna Rawlings, cyn-lysgennad Prydain i Ffrainc, a'r Athro Emyr Lewis, arbenigwr ar gyfraith gyfansoddiadol, fydd yn cyd-gadeirio'r comisiwn.
Bydd yn adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond yn wahanol i'r corff hwnnw, bydd yn un parhaol.
Ymhlith ei gyfrifoldebau fydd cynghori ar ddatganoli pellach, gan gynnwys pwerau dros Ystad y Goron, rheilffyrdd, cyfiawnder a phlismona.
Bydd hefyd yn ceisio annog trafodaeth genedlaethol am ddyfodol Cymru ac ymgysylltu â phobl ledled y wlad.
Wrth gyhoeddi manylion y comisiwn ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, fod angen i Gymru fod yn barod i wneud penderfyniadau am ei dyfodol.
"Mae'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig wedi'i strwythuro a'i llywodraethu dan bwysau cynyddol, ac mae dadleuon am ddatganoli, atebolrwydd a lle dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn dod yn fwyfwy pwysig," meddai.
"Mae llywodraethu cyfrifol yn golygu sicrhau bod Cymru'n barod i lunio ei dyfodol ei hun, gyda'r dystiolaeth, y cyngor a'r gofod democrataidd sydd eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus.
"Nid dadl haniaethol yw hon. Mae'n ymwneud ag a oes gan Gymru'r arfau, y pwerau a'r trefniadau democrataidd cywir i sicrhau canlyniadau gwell i'n pobl."
Ychwanegodd nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw paratoi ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol y wlad.
"Mae angen trafodaeth eang, agored ac adeiladol ar draws y Senedd hon ac ar draws Cymru," meddai.
"Dylai datblygiad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol gael ei lunio gyda phobl ledled Cymru, nid ei gyflwyno iddyn nhw yn unig."
"Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i helpu i lunio dyfodol hyderus, democrataidd ac uchelgeisiol i Gymru."
Nododd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2024, dri opsiwn ymarferol ar gyfer dyfodol y wlad: datganoli pellach, ffederasiwn i'r Deyrnas Unedig, ac annibyniaeth.
Bydd y comisiwn newydd yn ymchwilio ymhellach i'r materion gwleidyddol, economaidd a democrataidd sy'n berthnasol i ddyfodol Cymru, gan ystyried y tri opsiwn hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai nod y corff yw sicrhau bod trafodaeth am y cyfansoddiad yn parhau, a bod penderfyniadau yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth a dadansoddiad annibynnol.
