Coleg Nyrsio: Angen ‘buddsoddiad brys’ i warchod cleifion mewn tywydd crasboeth

Ward ysbyty, thermometr

Mae angen “buddsoddiad brys” i sicrhau fod sefydliadau iechyd yn gallu gwrthsefyll gwres eithafol, yn ôl cynrychiolwyr nyrsys yng Nghymru, wedi i staff ddweud wrth arolwg newydd fod cleifion bregus wedi marw yn sgil tywydd crasboeth yr haf.

Fe gyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) ganlyniadau arolwg o bron i 2,500 o staff nyrsio yng Nghymru a Lloegr ddydd Gwener, gyda 74% o’r rheiny’n dweud nad ydyn nhw’n credu fod eu llywodraeth yn gwneud digon i warchod gwasanaethau iechyd rhag effaith newid hinsawdd.

Haf 2026 oedd y poethaf yn hanes Cymru, gyda'r record am y tymheredd uchaf ar record hefyd yn cael ei dorri.

Mae’r dystiolaeth gan nyrsys y Gwasanaeth Iechyd ar ddwy ochr Clawdd Offa yn amlinellu’r heriau sy’n dod â hynny - yn enwedig yr effaith ar gleifion bregus sy’n cael trafferth anadlu neu sydd â chyflyrau ar y galon.

Dywedodd un nyrs o Gymru wrth yr arolwg: “Roedd gennyn ni ddau glaf bregus a gwnaeth y gwres eithafol effeithio’n uniongyrchol ar eu marwolaeth. Nid dyna’r unig reswm - [ond] os ydych chi’n profi methiant anadlu, mae’r gwres yn ddedfryd angau.”

Fe gododd nyrsys o Loegr bryderon tebyg, gydag un yn dweud fod y tymheredd dros 44°C ar ward plant yn Sir Efrog - ac un arall yn ne-orllewin Lloegr yn dweud i gynrhon dyfu yng nghlwyfau un o’i chleifion yn sgil y gwres.

'Heb yr offer cywir'

Dywedodd Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, fod y dystiolaeth yn “peri pryder sylweddol ac yn taflu goleuni ar yr effaith cynyddol mae gwres eithafol yn ei gael ar gleifion, staff a gwasanaethau gofal iechyd.”

“Mae staff nyrsio wedi dweud wrthyn ni am gleifion sy’n agored i niwed yn dirywio mewn amgylcheddau peryglus o boeth, gan gynnwys cleifion bregus y cafodd eu marwolaethau eu heffeithio’n uniongyrchol gan dymheredd eithafol,” meddai mewn datganiad wrth Newyddion S4C.

Image
Nicola Williams, Coleg Nyrsio Brenhinol
Dywedodd Nicola Williams fod aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gwneud eu gorau ond nad ydyn nhw'n gallu "goresgyn" problemau ag isadeiledd (Llun: Y Coleg Nyrsio Brenhinol)

Ychwanegodd bod newid hinsawdd bellach yn “realiti” ond fod “gormod o leoliadau iechyd a gofal yn parhau i fod heb yr offer cywir i ymdopi â chyfnodau hir o wres eithafol.”

“Mae angen buddsoddiad brys mewn mesurau sy’n gwneud amgylcheddau iechyd a gofal yn wydn i dymheredd cynyddol, gan gynnwys systemau oeri effeithiol, dyluniad adeiladau gwell a chynlluniau addasu gwres clir,” meddai.

“Gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn amlach, rhaid i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr iechyd weithredu nawr i sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru wedi’u paratoi ar gyfer yr hafau sydd i ddod.

“Mae diogelwch cleifion a lles staff nyrsio yn dibynnu ar hyn.”

Mae astudiaeth o'r don wres a darodd Ewrop ddechrau'r haf yn awgrymu fod tua 2,700 o bobl yn fwy na’r arfer wedi marw yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai a Mehefin.

Cymryd pryderon 'o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn cydnabod yr heriau y gall cyfnodau o wres eithafol eu creu i gleifion a’r staff sy’n gofalu amdanynt, ac rydym yn ddiolchgar i’r rheini a weithiodd yn ddiflino i gynnal gofal diogel o ansawdd uchel yr haf hwn.”

Ychwanegodd: “Mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym yn cymryd y pryderon a godir gan staff y Gwasanaeth Iechyd o ddifrif, ac fe weithion ni’n agos gyda byrddau iechyd drwy gydol cyfnod y tywydd poeth i fonitro pwysau, cefnogi ymatebion lleol a sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i ddiogelu cleifion a staff.
 
“Wrth i wres eithafol ddod yn fwy cyffredin o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, rydym wedi ymrwymo i gryfhau gwydnwch Cymru i’r effeithiau hyn.
 
“Rydym yn buddsoddi mwy na £500 miliwn eleni i foderneiddio a gwella ystad y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys gwella ei gwydnwch i heriau sy’n gysylltiedig â’r tywydd.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd i fyfyrio ar brofiadau’r haf hwn, cofnodi’r gwersi a ddysgwyd a nodi unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i gefnogi gofal diogel, effeithiol ac urddasol.”

Prif lun: PA/Y Coleg Nyrsio Brenhinol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.