Coeden y Sycamore Gap yn dangos cylch o egin dair blynedd ar ôl cael ei thorri
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud bod yna gylch trwchus o egin newydd o amgylch boncyff coeden y Sycamore Gap dair blynedd ers iddi gael ei thorri i lawr.
Mae'r twf newydd ar y safle ger Mur Hadrian yn Northumberland rhwng dwy a thair troedfedd o uchder, ac mae'n dangos manteision cadw'r ardal wedi'i ffensio, yn ôl yr elusen gadwraeth.
Cafodd y goeden ei thorri'n bwrpasol dros nos ym mis Medi 2023.
Ym mis Mai 2025 cafwyd Daniel Graham ac Adam Carruthers yn euog o dorri'r goeden enwog a'u dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Fe achosodd y dinistr gynnwrf cenedlaethol a phenawdau rhyngwladol pan gafodd y ddau eu carcharu am ddifrod troseddol i'r goeden ac i'r mur hynafol.
Mae tri o eginblanhigion (saplings) a gafodd eu tyfu o goeden y Sycamore Gap wedi cael eu plannu yng Nghymru, ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, sef Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro y llynedd.
Mewn ymgais i weld a fyddai'r boncyff yn gwella, cafodd gweddillion y goeden eu ffensio.
Dywedodd Andrew Poad, rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mur Hadrian: "Mae'r egin ffyniannus hyn yn galonogol iawn ac yn dangos bod y mesurau arbennig rydym wedi'u cymryd, gan gynnwys lleihau cywasgu'r pridd o amgylch y gwreiddiau a chyfyngu ar aflonyddwch gan bobl, yn dwyn ffrwyth.
"Rydym yn ddiolchgar i'r holl ymwelwyr sydd, trwy'r gofal maen nhw'n ei gymryd, yn cefnogi ein hymdrechion i amddiffyn y goeden a rhoi'r cyfle gorau posibl iddi ffynnu.
"Rydym yn monitro'r goeden yn agos ac, wrth i amser fynd heibio, bydd ein ceidwaid yn ei rheoli yn dibynnu ar sut mae'n datblygu.
"Ond am y tro, mae'r ffordd y mae natur yn dilyn ei chwrs yn rhoi gobaith mawr i ni."
Mae coed ifanc wedi'u tyfu o hadau a gafwyd ar y safle, ac mae prosiectau celf wedi'u lansio i ddangos pwysigrwydd natur yn y byd modern.
