Codi pac a gadael Cymru am fywyd newydd yn Awstralia - ond pam?
Mae'n ddiwedd cyfnod i Newyddion S4C ddydd Gwener, wrth i ni ffarwelio gydag un o'n haelodau sydd yn symud i fyw i ben draw'r byd.
Dyma adroddiad arbennig ein newyddiadurwraig Molly Sedgemore, sy'n trafod ei phenderfyniad i godi pac a gadael Cymru am Awstralia.
Cymysg yw’r teimladau sydd gen i wrth i mi gau’r laptop gwaith am y tro olaf ac agor fy nghês dillad er mwyn ei lenwi ar gyfer yr antur sydd o fy mlaen.
Dyw e ddim yn benderfyniad dwi wedi ei wneud ar chwarae bach, na chwaith yn un dwi wedi ei wneud yn ddiweddar.
Mae’r cynnwrf, nerfusrwydd, tristwch a hapusrwydd yn gymysgedd yna i gyd wrth i'r diwrnod mawr ddod yn agos.
Bellach, fe fydd egin syniad a ddechreuodd yn y brifysgol dros bum mlynedd yn ôl yn realiti ymhen llai ‘na phythefnos.
Ac wrth i mi ddechrau dweud hwyl fawr i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr annwyl, mae’n anodd peidio â chwestiynu beth yn y byd ddaw nesaf.
Pam symud?
Bydda i gyda fy nghariad Connor yn ymuno â degau ar filoedd o bobl o’r Deyrnas Unedig sy’n cael byw a gweithio yn Awstralia yn ddiweddarach ym mis Mawrth.
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Awstralia, mae nifer y bobl o’r DU sy’n ymweld ag Awstralia ar fisa sy’n caniatáu iddynt aros yno a gweithio wedi codi 26% o gymharu â’r pum mlynedd cyn y pandemig.
Fe wnaeth tua 40,000 o bobl o’r DU fudo i Awstralia rhwng 2024-25.
Ac i ryw raddau, dwi’n teimlo fel fy mod i’n ymuno gyda hanner Cymru mas yna.
Dyw e ddim yn anghyfarwydd bellach i agor Instagram a dysgu bod cyfaill arall wedi troi eu cefn ar y 9-5 a hedfan i fywyd newydd yn yr haul a thraethau Oz.
Ond pam?
Yn bersonol, y ffordd o fyw yno sydd wastad wedi bod yr atyniad mwyaf i mi.
Balans rhwng oriau gwaith a chyfnodau ble mae’r haul yn disgleirio ac yn cynnig cyfle i fyw bywyd i'r eithaf - a hynny wedi'r holl law dros y misoedd diwethaf adref yn y Cymoedd.
Fel menyw yn fy ugeiniau (hwyr), dwi’n ymwybodol na fydd y cyfle i symud i wlad arall ar gael i mi am byth.
Dwi’n benderfynol o fachu ar y cyfle felly, er gwaethaf yr heriau.
Dweud hwyl fawr wrth Ton, fy mam-gu 92 oed, sydd ar ben y rhestr heriol honno.
Ond fel un a wnaeth deithio’r byd ei hun, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ar hyd fy oes, ac mae’n fy annog yn fwy na neb i droedio ar yr awyren pan ddaw'r amser.
Gwireddu breuddwydion
Ers bod yn ferch ifanc, darllen a ‘sgwennu oedd fy nghariad mawr.
Roedd ennill swydd fel newyddiadurwr digidol gyda Newyddion S4C bron i dair blynedd yn ôl yn gwireddu breuddwyd mewn nifer o ffyrdd.
Ond roedd ‘na un peth doeddwn i byth wedi ei ddisgwyl – gweithio drwy’r Gymraeg.
Fel merch o’r Cymoedd gyda theulu di-Gymraeg, doedd gyrfa yn y Gymraeg byth ar yr agenda.
Ro’n i’n teimlo’n ymwybodol iawn nad oedd safon fy iaith yn cymharu gyda’r Cymry Cymraeg o’n i’n eu hadnabod – boed hynny ar y cwrs newyddiadura ym Mhrifysgol Caerdydd, neu’n ddiweddarach gyda fy nghyd-weithwyr yn S4C.
Ond un o’r gwersi pwysicaf dwi wedi ei ddysgu yw, doedd dim ots.
Mae’r Gymraeg wir yn perthyn i bob un ohonom, a dwi’n gadael fy swydd newyddiadura fel Cymraes sy'n falch o'i Chymraeg.
Nawr, y gobaith yw cael blas ar y byd newyddiadurol yn Awstralia.
Wrth i mi ddechrau wynebu byw bywyd drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, mae ‘na dristwch na alla i ei ddisgrifio’n llawn.
Yr hen hen hiraeth yw hwnnw.