Clybiau'n ceisio cyngor cyfreithiol am iawndal yn dilyn cyhuddiadau Man City

man City

Mae clybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a fyddai ganddynt hawliad am iawndal yn sgil achos y 115 cyhuddiad yn erbyn Manchester City.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod y clwb wedi ei gael yn euog o dorri y mwyafrif o'r 115 o reolau ariannol Uwch Gynghrair Lloegr yr oeddynt yn destun ymchwiliad iddynt.

Y gred yw y bydd yn clwb yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn ôl adroddiad gan The Athletic ddydd Gwener, nid yw'r gosb am dorri'r rheolau wedi ei phenderfynu eto, ond fe allai gael effaith sylweddol ar safle'r clwb ymysg y timau ar frig Uwch Gynghrair Lloegr.

Ymysg yr 115 rheol sydd yn honedig wedi eu torri gan y clwb mae methiant i ddarparu gwybodaeth ariannol gywir o 2009-10 i 2017-18 a methiant i gydymffurfio gyda rheolau Chwarae Teg Ariannol Uefa rhwng 2013-14 a 2017-18.

Mae'r cyhuddiadau yn deillio yn ôl i 2023 pan gafodd y clwb ei gyhuddo o dorri'r rheolau am y tro cyntaf.

Mewn datganiad yn ymateb i'r adroddiadau, dywedodd Manchester City: "Mae proses yr Uwch Gynghrair yn parhau, gydag elfennau sylweddol i'w cwblhau, ac mae'n destun cyfrinachedd llym.

"Felly, mae safbwynt Manchester City FC yn parhau i fod yn gyson â datganiad y clwb o fis Chwefror 2023.

"Mae'r clwb wedi parchu'r broses briodol yn ddiwyd ers wyth mlynedd, ar y sail y byddai bwrdd ac uwch-reolwyr yr Uwch Gynghrair yn gweithredu fel rheoleiddiwr annibynnol, diduedd a theg, yn rhydd rhag dylanwad pleidiol."

Nid oes datganiad swyddogol wedi'i wneud gan yr Uwch Gynghrair, sydd wedi gwrthod gwneud sylw.

Mae'r penderfyniadau arwyddocaol hyn yn codi nifer enfawr o gwestiynau am beth fydd yn digwydd nesaf, beth allai fod yn gosb i City, a sut y caiff y tymor presennol ei effeithio.

Un posibilrwydd sy'n dod i'r amlwg yw y gallai timau eraill yn yr Uwch Gynghrair gymryd camau cyfreithiol i geisio iawndal, gan honni eu bod wedi cael eu heffeithio gan gamau gweithredu City.

Roedd nifer o glybiau, cyn newyddion dydd Gwener, eisoes wedi dechrau ceisio cyngor ynghylch a fyddai ganddynt achos am iawndal ariannol.

Mae’n bosib y bydd clybiau’n cyflwyno ceisiadau am iawndal unigol yn erbyn Manchester City.

Nid yw cam o'r fath heb gynsail. Ym mis Mehefin, dywedwyd wrth Everton bod yn rhaid iddynt dalu £35m i Burnley ar ôl iddynt dorri rheoliadau elw a chynaliadwyedd (PSR) dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd Burnley wedi dadlau fod torri’r rheolau wedi effeithio ar eu siawns o aros yn yr Uwch Gynghrair, gan geisio iawndal am y colledion yn sgil cael eu hisraddio i’r Bencampwriaeth. Mae Everton wedi apelio yn erbyn y dyfarniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.