Cipolwg ar gemau nos Fawrth y Cymru Premier JD
Nos Fawrth, mi fydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio cael eu coroni’n bencampwyr y Cymru Premier JD am y pumed tymor yn olynol gan y byddai buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Cei Connah yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth.
Bydd carfan Craig Harrison yn siomedig tu hwnt o fethu a chodi Cwpan Nathaniel MG dros y penwythnos ar ôl colled annisgwyl yn erbyn Y Barri yn y rownd derfynol.
Ond pa ffordd well i ymateb dridiau yn ddiweddarach nac wrth gadarnhau’r bencampwriaeth yng nghartref y tîm sy’n ail, sef Cei Connah.
Yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop, mae Cei Connah 10 pwynt uwchben Pen-y-bont, ond dyw’r naill dîm na’r llall wedi ennill yn eu pum gêm ddiwethaf, ac felly mae gweddill y pac yn dechrau cau’r bwlch.
CHWECH UCHAF
Cei Connah (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 (Ar-lein)
Mae’r Seintiau Newydd wedi cwblhau dwbl domestig ym mhob un o’r pedwar tymor diwethaf (trebl yn 2024/25), ond ar ôl colli yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG nos Sadwrn, a cholli yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn gynharach yn y tymor, pencampwriaeth y Cymru Premier JD yw’r unig dlws sydd ar gael i’r Seintiau bellach.
Byddai buddugoliaeth i gewri Croesoswallt nos Fawrth yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth, a hynny gyda phum gêm ar ôl i’w chwarae.
Ond er y llwyddiant yn y gynghrair, mae’n bosib y bydd eleni’n cael ei gyfri'n dymor siomedig i’r Seintiau, gan eu bod wedi cyflawni o leiaf ddwbl domestig mewn 10 o’u 12 tymor blaenorol.
O’r 12 tymor diwethaf, dim ond yn 2019/20 a 2020/21 y methodd y Seintiau â chyflawni dwbl, ac roedd hynny’n bennaf am i rai cystadlaethau gael eu diddymu oherwydd Covid-19.
Felly, dyma’r tro cyntaf ers tymor 2012/13 i’r tair brif gystadleuaeth cael eu cynnal ac i’r Seintiau Newydd fethu ag ennill o leiaf ddwy o’r cystadlaethau hynny.
Mae yna deimlad fflat o gwmpas Cei Connah hefyd, oherwydd er bod y Nomadiaid yn gyfforddus yn yr ail safle dyw’r tîm heb ennill yn eu pum gêm ddiwethaf.
Bydd prif sgoriwr y gynghrair, Jordan Williams yn awyddus i ychwanegu at ei 23 gôl hyd yma, ac mae’r blaenwr cryf wedi sgorio pum gôl yn ei bum gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, yn cynnwys y gôl fuddugol yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2024/25.
Ond Cei Connah oedd yn dathlu wedi’r ornest ddiwethaf rhwng y timau ar nos Calan, gyda Callum West yn serennu gan sgorio gôl unigol gampus mewn buddugoliaeth o 3-1 i’r Nomadiaid ar Gae y Castell.
Record gynghrair ddiweddar:
Cei Connah: ➖➖➖➖❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Barri (6ed) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n noson arbennig ac emosiynol i glwb Y Barri nos Sadwrn wrth i’r Dreigiau gipio un o brif dlysau Cymru am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd.
Ieuan Owen oedd yr arwr i’r Barri, yn sgorio’r ddwy gôl mewn buddugoliaeth o 2-0 i’r Dreigiau, wrth i dîm Steve Jenkins ac Andy Legg lwyddo i drechu’r Seintiau am y tro cyntaf ers chwe blynedd a hanner.
Mae’r fuddugoliaeth annisgwyl yn golygu bod rhediad anhygoel Y Barri’n parhau gyda’r clwb wedi ennill tair gêm yn olynol a hynny heb ildio gôl (vs Caernarfon, Cei Connah ac YSN).
Dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Barri yn 6ed, a Phen-y-bont yn 3ydd, gan fod tîm Rhys Griffiths wedi stryffaglu’n ddiweddar.
Tydi Pen-y-bont m’ond wedi ennill un o’u 10 gêm ddiwethaf (vs Llanelli), a dyw bechgyn Bryntirion heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (1-0 vs Bae Colwyn).
Ond dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u 14 gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 8, cyfartal 6), a Noah Daley oedd y seren i’r Gleision ar Barc Jenner ym mis Awst, yn sgorio hatric yn ei ymddangosiad cyntaf i Ben-y-bont yn y gynghrair (Barri 2-3 Pen).
Record gynghrair ddiweddar:
Y Barri: ✅❌❌✅✅
Pen-y-bont: ➖➖❌➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.