Cip ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD

Sgorio
Bae Colwyn

Gyda’r Seintiau Newydd a’r Barri yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG brynhawn Sadwrn, dim ond pedair gêm gynghrair fydd yn cael ei chwarae’r penwythnos yma.

Wedi chwe buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd 15 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ac fe all cewri Croesoswallt sicrhau’r bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Cei Connah nos Fawrth.

Lawr yn y Chwech Isaf, ac ar ôl ennill pedair gêm yn olynol mae Hwlffordd wedi torri bedwar pwynt yn glir yn y frwydr i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle.

Yn dilyn eu colled yn erbyn Hwlffordd nos Wener diwethaf, mae Llanelli’n sicr o syrthio ar ddiwedd y tymor, ac mae’r Bala mewn perygl o wneud hynny hefyd gan eu bod yn dechrau’r penwythnos bum pwynt o dan diogelwch y 10fed safle.

Y Chwech Uchaf 

Caernarfon (5ed) v Bae Colwyn (4ydd) | Nos Wener – 19:45

Yn yr unig gêm rhwng dau dîm o’r Chwech Uchaf bydd Caernarfon yn croesawu Bae Colwyn i Barc Maesdu, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau glwb.

Bydd Bae Colwyn yn benderfynol o ddial ar Gaernarfon wedi i’r Cofis guro’r Gwylanod o 4-1 yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru fis diwethaf.

Blaenoriaeth Caernarfon fydd sicrhau bod neb yn cael ei anafu nos Wener cyn yr ornest fawr yn erbyn Y Rhyl 1879 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru y penwythnos nesaf.

Ond mi fydd Richard Davies yn awyddus i ennill er mwyn codi ysbryd ei garfan gan fod y Caneris m’ond wedi ennill un o’u 11 gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 6, colli 4).

Mae Bae Colwyn wedi dal eu tir yn gadarn yn y Chwech Uchaf gan golli dim ond unwaith yn eu pedair gêm gynghrair ers yr hollt, a’r golled honno’n dod yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Hon fydd y bumed ornest rhwng y ddau glwb yma’r tymor hwn, ac mae’r record benben yn hafal hyd yma gyda Caernarfon yn ennill ddwywaith a Bae Colwyn yn ennill ddwywaith.

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ͏➖➖➖❌❌

Bae Colwyn: ͏❌➖✅❌✅

Y Chwech Isaf

Met Caerdydd (9fed) v Llansawel (8fed) | Nos Wener – 19:45

Pwynt yn unig sy’n gwahanu Met Caerdydd a Llansawel yng nghanol y Chwech Isaf, ac mae angen buddugoliaeth ar y naill dîm a’r llall os am gynnal y pwysau ar Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle.

Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill unwaith ers hynny (vs Llanelli), ac mae’r clwb bellach ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 6, colli 3).

Bydd Llansawel, ar y llaw arall, yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 2), ac ar ôl curo’r Bala y penwythnos diwethaf ac agor bwlch o wyth pwynt rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp, bydd tîm Andy Dyer yn edrych i fyny ac yn ceisio cau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd.

Mae Thomas Walters yn mwynhau tymor da i Lansawel, ac o glybiau’r Chwech Isaf does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau nac ymosodwr y Cochion (sgorio 9, creu 8).

Cyn-chwaraewr Llansawel, Jasper Payne yw prif sgoriwr Met Caerdydd y tymor hwn gyda chwech o goliau cynghrair, a daeth dwy o’r rheiny yn erbyn ei gyn-glwb yn rhan gynta’r tymor mewn dwy gêm gyfartal.

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ➖❌➖➖➖
Llansawel: ͏✅✅❌➖✅

Y Bala (11eg) v Llanelli (12fed) | Nos Wener – 19:45

Cafodd ffawd Llanelli ei selio nos Wener diwethaf wrth i’r Cochion golli o 1-0 yn erbyn Hwlffordd gan gadarnhau eu cwymp yn ôl i’r ail haen.

Gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 26 gêm gynghrair, a dim ond naw pwynt ar y bwrdd, mae hi wedi bod yn dymor eithriadol o siomedig i Lanelli.

O holl uwch gynghreiriau y dynion yn Ewrop, Llanelli yw dim ond y trydydd tîm i sicrhau eu cwymp eleni, gyda’r unig ddau glwb arall wedi eu gwahardd o’u cynghreiriau am resymau gweinyddol, sef Domžale (Slofenia), a Pasa de la Casa (Andorra).

Bydd Y Bala’n benderfynol o osgoi’r un ffawd a Llanelli, gyda tîm Steve Fisher yn eistedd yn safleoedd y cwymp, bum pwynt o dan diogelwch y 10fed safle.

Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ond mae Hogiau’r Llyn mewn perygl gwirioneddol o lithro ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf.

Mae’r Bala wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Llanelli, ond 1-0 oedd hi yn y ddwy gêm rhwng y timau yn rhan gynta’r tymor felly bydd hi ddim yn gêm hawdd igarfan Gwynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.