Chwe Gwlad: Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Alban ers tair blynedd

Chwe Gwlad: Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Alban ers tair blynedd

Fe fydd Cymru yn gobeithio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Alban mewn mwy na thair blynedd wrth ddechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn hefyd yn gobeithio am ei fuddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ers iddo gael ei benodi 12 mis yn ôl. 

Mae Cymru wedi gorffen ar waelod y tabl gyda'r llwy bren yn y ddwy bencampwriaeth Chwe Gwlad ddiwethaf yn ogystal â phrofi ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd yr haf diwethaf. 

Ond gyda hyfforddwyr newydd yn ymuno â'r tîm hyfforddi, a naw chwaraewr yn y garfan am y tro cyntaf, mae Lynn yn gobeithio am ddechrau newydd i Gymru.

"Mae hwn yn ddechrau ffres i Gymru a dyma'r cam cyntaf i'r grŵp newydd yma o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff, ac rydyn ni wedi cael sawl trafodaeth wrth ddewis y tîm," meddai.

"Mae'r chwaraewyr yn gwybod ein bod ni'n cynrychioli cenedl, ein teuluoedd ac eu hunain, ac mae hwn yn gyfle i ddangos pwy ydyn ni a'r hyn y mae'n ei olygu i wisgo'r crys coch."

Mae Lynn wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer y gêm agoriadol, gyda dau o'r chwaraewyr yn cael eu cynnwys am y tro cyntaf.

Mae’r asgellwr Seren Singleton a’r clo Jorja Aiono wedi’u cynnwys yn nhîm Cymru, gyda’r blaenasgellwr Kate Williams yn gapten.

Mae Aiono wedi’i dewis yn yr ail reng wedi iddi greu argraff gyda Brython Thunder, gyrhaeddodd rownd gynderfynol yr Her Geltaidd ym mis Mawrth.

Mae Seren Singleton wedi’i henwi ar yr asgell ar ôl iddi hawlio’i lle’n gyson yn nhîm Brython Thunder dros y tri thymor diwethaf.

Ychwanegodd Sean Lynn:  “Mae’n fraint enfawr enwi dau gap newydd, Jorja Aiono a Seren Singleton. Mae’r ddwy wedi llawn haeddu’r cyfle yma gan eu bod wedi creu argraff arbennig yn yr Her Geltaidd ac ers i’r garfan ddod at ein gilydd i ymarfer."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.