Ceredigion: Arestio dyn 37 oed wedi 'ymosodiad difrifol' ar ddyn 20 oed

cei newydd.jpg

Mae dyn 37 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol wedi i ddyn 20 oed ddioddef anafiadau sy'n peryglu bywyd mewn ymosodiad yng Nghei Newydd, Ceredigion, yn oriau mân fore Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r ymosodiad difrifol a ddigwyddodd ar Stryd Margaret yn arwain ar Sgwâr Uplands yn y dref am tua 00:51 fore Sadwrn. 

Fe gafodd y dyn 20 oed ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol. 

Mae'r dyn 37 oed yn parhau yn y ddalfa. 

Ychwanegodd y llu fod ymholiadau yn parhau, ac yn cael eu harwain gan yr Adran Ymchwiliadau Troseddol a bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260704-028. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.