Y Ceidwadwyr am wahardd alcohol a sigaréts i bobl sydd ar fudd-daliadau hirdymor

Person yn ysmygu

Byddai'r Ceidwadwyr yn gwahardd y rhai sy'n hawlio budd-daliadau hirdymor rhag prynu alcohol a sigaréts o dan gynlluniau newydd. 

Byddai’r cynlluniau arfaethedig hefyd yn gweld taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu torri i’r rhai sydd ddim yn gwneud cyfraniadau cyson i'r system les, gydag arweinydd y blaid Kemi Badenoch yn dweud fod y system honno yn "annheg i weithwyr" ar hyn o bryd.

O dan gynlluniau'r Ceidwadwyr, byddai unrhyw un sy'n hawlio Credyd Cynhwysol pan nad ydyn nhw'n gweithio yn cael chwe mis o fudd-daliadau llawn i ddod o hyd i swydd. 

Ar ôl hynny, byddai'r gyfradd llawn ddim ond ar gael i bobl sydd wedi cyfrannu i'r system les drwy eu trethi am flynyddoedd. 

Byddai’r rhai sydd heb wneud cyfraniadau yn gweld eu cyfradd safonol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei thorri o draean, gyda’r taliad yn cael ei roi ar gerdyn penodol.

Byddai’r cerdyn yn gwahardd gwario ar sigaréts, alcohol, betio a thynnu arian parod.

Dywedodd Kemi Badenoch: "Byddai rhai yn dweud nad yw hyn yn deg ar bobl sy'n hawlio budd-daliadau. Beth sy'n annheg yw system lle mae rhywun sy'n gallu gweithio yn dewis peidio, ac yn hawlio mwy o fudd-daliadau na rhywun â swydd. 

"Os ydych chi'n gallu gweithio, fe ddylech chi weithio. Nid yw helpu pobl i weithio yn gosb. 

"Fe fyddwn ni'n llym ar y rhai sy'n manteisio ar y system oherwydd nid yw'r system bresennol yn deg i weithwyr, trethdalwyr a'r rhai sydd wir angen cefnogaeth."

Mae disgwyl i ddiwygiadau pellach gael eu cyhoeddi yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn ddiweddarach yn y mis. 

Fe allai'r diwygiadau arbed £538 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr drwy symud 350,000 o bobl sy'n hawlio budd-daliadau i 'lwfans cynhaliaeth' newydd yn ôl amcangyfrifon gan y Ceidwadwyr. 

Ymateb y pleidiau

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion Gwaith a Phensiynau, Ann Davies AS: "Dyw’r Ceidwadwyr heb ddysgu dim.

"Ar adeg pan fo teuluoedd yn ei chael hi’n anodd, eu hateb nhw yw troi pobl yn erbyn ei gilydd."

Dywedodd Robert Jenrick, llefarydd Trysorlys Reform, na fydd cynllun y Ceidwadwyr yn gwneud fawr o wahaniaeth i'r bil budd-daliadau.

"Fe wnaeth y Torïaid adael fwy o bobl ar fudd-daliadau hirdymor, ac roedd twyll budd-daliadau ar y lefel uchaf erioed," meddai.

Fe wnaeth y Blaid Lafur awgrymu fod y bai am y problemau yn y system les ar y Ceidwadwyr.

"Roedd gan y Ceidwadwyr 14 mlynedd i fynd i'r afael â'r system les ond maen nhw wedi methu yn llwyr i wneud diwygiadau o bwys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.