CBAC yn ymddiheuro wedi camgymeriad mewn papur arholiad TGAU Cymraeg

Artholiad llen CBAC

Mae bwrdd arholi CBAC wedi ymddiheuro ar ôl camgymeriad mewn papur arholiad TGAU Cymraeg.

Roedd cwestiwn ym mhapur Blwyddyn 10 papur TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cyfeirio at gymeriad o'r enw 'D.C.I. Karen Evans' yn nofel Llechi gan Manon Steffan Ros.

'D.C.I. Karen Davies' yw enw'r cymeriad yn y nofel.

Mewn datganiad, dywedodd CBAC: "Hoffai CBAC ymddiheuro am y gwall wnaeth effeithio ar rai myfyrwyr oedd yn ateb ar un rhan o'n papur TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg.

"Er ein bod yn cynhyrchu nifer sylweddol o gwestiynau arholiad bob blwyddyn, mae digwyddiad o'r fath yn rhywbeth prin iawn, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif. 
 
"Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth o'r fath yn digwydd eto.
 
"Hoffem roi sicrwydd i fyfyrwyr bod gennym weithdrefnau cadarn yn eu lle i sicrhau na fyddant o dan unrhyw anfantais ac y byddant yn cael eu trin yn deg. 
 
"Caiff ystyriaeth ofalus ei rhoi i bob ateb arholiad yn ystod y broses farcio a graddio er mwyn gwneud yn siŵr bod y canlyniad mae myfyrwyr yn ei dderbyn am eu cymhwyster yn un teg."
 
'Hynod siomedig'
 
Yn dilyn yr arholiad, roedd trafodaeth am y pwnc ar grŵp Rhwydwaith Menywod Cymru ar Facebook.
 
Dywedodd un aelod o'r grŵp ei bod yn "hynod o siomedig" gyda CBAC am y camgymeriad yn y papur arholiad.
 
"Llechi oedd y nofel bues i’n astudio a phan agores i’r papur, roedd y cwestiwn cyntaf yn gofyn am gymeriad doedd ddim hyd yn oed yn bodoli," meddai.
 
"Dw i erioed ‘di astudio llyfr sydd a chymeriad o’r enw DCI Karen Evans, DCI Karen Davies dw i’n nabod. Typical.
 
"Ma’n hynod o siomedig am fod CBAC wedi treulio cymaint o amser ar y cwrs newydd yma ac wedyn blwyddyn 10 druan yn agor y papur am 9 ac yn gweld y cwestiwn yna. Twlu plant fel ni off ac yn chwalu ein hyder cyn dechrau."
 
Dywedodd aelod arall: "Beth yr oedd pawb yn ei feddwl o rhan yr arholiad cymraeg ‘Llechi’ heddiw? 
 
"Y ferch yn dweud bod yr cwestiwn cyntaf gyda enw anghywir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.