Carfan Cymru mewn anghydfod ag Undeb Rygbi Cymru cyn eu gêm yn erbyn Ffiji
Mae paratoadau carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd wedi cael eu heffeithio yn sgil anghydfod gydag Undeb Rygbi Cymru dros ffioedd gemau.
Fe fydd tîm Steve Tandy yn chwarae yn erbyn Ffiji, yr Ariannin a De Affrica ond mae'r paratoadau wedi cael eu heffeithio gan faterion oddi ar y cae a gafodd eu datrys ddydd Mercher.
Fe gafodd trafodaethau eu cynnal rhwng yr undeb a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru am "delerau cyflogaeth" ac fe ddaethant i gytundeb yn hwyr brynhawn Mercher i sicrhau y bydd gêm Ffiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn mynd yn ei blaen.
Roedd Cymru i fod i gael cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher gyda dau chwaraewr ar drothwy'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Wedi oedi o dros awr, fe benderfynodd y garfan i beidio mynychu'r gynhadledd yn sgil yr anghydfod gyda'r Undeb.
Fe gafodd trafodaethau pellach eu cynnal yn ddiweddarach cyn cyrraedd cytundeb ychydig cyn 17:00 gyda chwaraewyr yn cael eu gweld yn gadael y cyfarfod.
Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru: "Fe gafodd mynediad i'r cyfryngau ei ohirio heddiw yn sgil trafodaethau parhaus rhwng cynrychiolwyr URC a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ynghylch termau cyflogaeth ar gyfer y gystadleuaeth newydd sef Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
"Mae'r trafodaethau hyn bellach wedi dod i ben gyda phob sefydliad wedi eu boddhau.
"Nid yw paratoadau ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi cael eu heffeithio."
Daw hyn wedi sawl problem oddi ar y cae yn y blynyddoedd diweddar i rygbi yng Nghymru.
Mae cyfnod Tandy wrth y llyw hefyd wedi cael ei effeithio gan yr ansicrwydd gan Undeb Rygbi Cymru i leihau'r nifer o dimau proffesiynol o bedwar i dri.
Mae disgwyl i Tandy enwi ei dîm i wynebu Ffiji fore Iau.
Bydd Cymru hefyd yn wynebu'r Ariannin a De Affrica oddi cartref.
