Carcharu mam a thad o'r gogledd am achosi marwolaeth eu merch fregus
Mae mam a thad wedi cael eu carcharu am wyth mlynedd yr un am achosi marwolaeth eu merch fregus.
Cafodd Steffie Davies, 32 oed, ei chanfod yn farw gan barafeddygon a gafodd eu galw i’w chartref yn Wrecsam ym mis Mai 2023.
Cyfaddefodd ei rhieni, Alan a Bernita Davies - y ddau yn 60 oed - eu bod wedi achosi neu ganiatáu marwolaeth eu merch a oedd yn dioddef o orbryder.
Wrth eu dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd Mrs Justice Stacey: "Nid oes unrhyw dystiolaeth ei bod erioed wedi cael cariad a hoffter.
"Yn lle hynny, cafodd ei cham-drin ar lafar gennych chi a dangosoch chi ddifaterwch llwyr tuag at ei dioddefaint."
Roedd Ms Davies bron yn "groen a chnawd", ac ni fyddai wedi gallu bwyta neu yfed heb gymorth, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.
Daeth patholegydd i'r casgliad fod Ms Davies, oedd yn pwyso pum stôn a naw pwys, wedi marw o sepsis oherwydd briwiau heintiedig, a diffyg maeth.
Dywedodd Andrew Jones KC, ar ran yr erlyniad, fod ei gwallt yn frwnt, heintiau ffwngaidd posib ar ei chroen, a bod y gwely y cafwyd hyd iddi ynddo yn "wlyb drwyddo".
Fe aeth ymlaen i ddweud fod ei hystafell wely ar lawr gwaelod y tŷ mewn "cyflwr erchyll", mewn "cyferbyniad llwyr" â glendid gweddill y cartref.
'Cafodd ei gadael i bylu i ddim'
Mewn datganiad, dywedodd chwaer Ms Davies ei bod wedi dangos potensial yn y coleg, lle bu’n astudio gofal anifeiliaid, ond fod ei gorbryder wedi gwaethygu wrth iddi fynd yn hŷn a’i bod yn ei chael hi’n anodd gadael y tŷ.
Dywedodd y chwaer hŷn, na chafodd ei henwi yn y llys ac a oedd wedi ymddieithrio oddi wrth ei rhieni ers nifer o flynyddoedd: "Gyda’r gefnogaeth a’r anogaeth iawn gan fy mam a’m tad, gallai hi fod wedi gwneud cymaint gyda’i bywyd.
"Yn lle hynny, cafodd hi ei gadael i bylu i ddim yn y ffordd fwyaf annynol bosib. Fydd yr un ddedfryd yn gallu gwneud iawn am hynny."
Ni ddangoswyd lluniau o’i hanafiadau yn y llys ar ôl i Mrs Justice Stacey ddweud ei bod am "gadw, os yn bosib, rywfaint o urddas Steffie mewn marwolaeth".
Cafodd Bernita Davies ei disgrifio fel y "fam o uffern" gan gymydog oherwydd y ffordd yr oedd yn gweiddi ar ei thri phlentyn pan oeddent yn ifanc.
Y tro diwethaf i Ms Davies gael ei gweld y tu allan i'r tŷ, yn 2017, clywodd y llys fod ei mam wedi gweiddi arni a'i galw'n "dwp".
Dywedodd Mr Davies wrth barafeddygon nad oedd ei ferch wedi bod allan o'r gwely am 12 mis cyn iddi farw a dywedodd ei brawd iau ym mis Rhagfyr 2022 fod Ms Davies yn gaeth i'r gwely ac yn rhy wan i agor bocs o siocledi yr oedd wedi'u rhoi iddi ar gyfer y Nadolig.
Clywodd y llys recordiad o’r alwad 999 a wnaed gan Mrs Davies i roi gwybod am farwolaeth ei merch tua 8.30am ar 26 Mai 2023.
Roedd modd clywed Mrs Davies yn crio yn ystod yr alwad, wrth iddi ddweud bod ei merch yn "oer" ac "fel sgerbwd".
Dywedodd Mr Jones fod Mrs Davies wedi dweud wrth swyddogion ei bod wedi gofalu am ei merch am 21.00 ar 24 Mai 2023, pan oedd hi yn y gwely yn darllen, a’i bod wedi edrych ar ei hôl nifer o weithiau y diwrnod canlynol pan oedd yn ymddangos fel petai’n cysgu, cyn dod o hyd iddi’n farw ar 26 Mai.
"Yn ôl pob tebyg, roedd hi wedi bod yn farw ymhell cyn hynny," meddai Mr Jones.
Clywodd y llys nad oedd modd sefydlu yn union pryd y bu farw Ms Davies, ond yn ôl arbenigwr roedd wlserau ar ei chorff wedi bod yno am o leiaf chwe wythnos.
Cafodd Mr a Mrs Davies eu cyhuddo’n wreiddiol o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ond derbyniwyd pledion euog i’r cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth eu merch yn gynharach eleni.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Sarah-Jayne Williams: "Mae’n anodd deall bod menyw a oedd unwaith yn ffit ac yn iach wedi gallu dirywio i’r pwynt o farwolaeth heb unrhyw ymyrraeth gan ei mam a’i thad, yr oedd hi’n byw gyda nhw ar y pryd ac a fyddai wedi bod yn gwbl ymwybodol o’i chyflwr oedd yn dirywio.
"Mae Alan a Bernita Davies wedi cydnabod bod lefel y gofal a ddarparwyd ganddynt i’w merch yn gwbl annigonol, a arweiniodd at ei marwolaeth drasig ac anochel."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Nid oedd Steffie Davies yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol yn Wrecsam, fodd bynnag byddwn yn cysylltu â Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru er mwyn ystyried a yw’r achos hwn yn bodloni’r trothwy ar gyfer adolygiad."