Carcharu dyn o Wynedd am ddwyn ceir ar draws y gogledd
Mae dyn o Wynedd yn un o ddau sydd wedi cael eu carcharu am ddwyn ceir ar draws gogledd Cymru a Sir Caer.
Fe ymddangosodd Benjamin Evans, 20 oed, o Landygai, Gwynedd a Kyle Draper, 21 oed, o Gaerdydd yn Llys y Goron Caer i gael eu dedfrydu.
Plediodd y ddau yn euog i bedwar cyhuddiad o fyrgleriaeth, dau gyhuddiad o ddwyn a gyrru yn beryglus mewn gwrandawiad blaenorol.
Cafodd Draper ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar, gyda Evans yn derbyn dedfryd o 45 mis yn y carchar.
Lansiodd swyddogion o Heddlu Caer ymchwiliad i'r byrgleriaethau ar draws gogledd Cymru a Sir Caer rhwng 2 a 3 Chwefror.
Fe wnaethon nhw adnabod dau gerbyd wedi'u dwyn, Hyundai a Seat Arona, o ogledd Cymru yn teithio mewn confoi i Gaer gyda'r nos ar 2 Chwefror.
Dangosodd lluniau CCTV y ddau gerbyd yn agosáu at ganol y ddinas yn ddiweddarach y noson honno, yn ogystal â mewn ardal pan gafodd Audi Q3 ei ddwyn o gyfeiriad yn Upton.
Cafodd yr Audi a'r Seat eu gweld yn ddiweddarach yn teithio mewn confoi i Crewe, lle cafodd yr Hyundai ei adael a'i ddarganfod yn ddiweddarach gan yr heddlu.
Cafodd Volvo ei ddwyn wedyn yn Crewe, ac fe gafodd yr Audi a'r Volvo eu gweld yn teithio mewn confoi rhwng Sir Caer a Sir Stafford.
Ar brynhawn 3 Chwefror, fe wnaeth swyddog o'r Uned Ffyrdd a Throseddu adnabod dau gar wedi'u dwyn a cheisiodd eu hatal.
Fe wnaeth y ddau gerbyd ffoi rhag y swyddogion gan yrru'n beryglus, gyda'r Audi yn gwrthdaro yn ddiweddarach yn ardal Sir Stafford ble y cafodd Draper ei arestio.
Fe wnaeth y Volvo barhau i ardal gorllewin canolbarth Lloegr gan deithio ar gyflymder uchel cyn gwrthdaro, ac fe gafodd Evans ei arestio.
Dywedodd yr heddwas Jack Ryder: "O ganlyniad i'n hymdrechion ar y cyd gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, roedd modd i ni eu dwyn i gyfri a sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwyr."