Carcharu dyn am daflu sylwedd peryglus i wyneb gwestai mewn canolfan llesiant
Mae dyn 28 oed wedi ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, ar ôl iddo daflu sylwedd peryglus i wyneb gwestai mewn canolfan llesiant roedd o'n ei redeg yn Abercraf.
Fe blediodd Dean Mayze yn euog i achosi niwed corfforol difrifol.
Ar ôl y digwyddiad yn Rhagfyr 2022, fe wnaeth Mayze ffoi dramor, cyn cael ei arestio yn Romania y llynedd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghanolfan Hafan y Coed yn Abercraf ar Ragfyr 10, 2022.