Carcharu cyn-dditectif Heddlu'r Gogledd am edrych ar gofnodion yr heddlu'n anghyfreithlon

Emma Gardner

Mae dynes oedd yn uwch dditectif gyda Heddlu Gogledd Cymru cyn iddi ymddiswyddo wedi cael ei charcharu am wyth mis ar ôl iddi gael mynediad anghyfreithlon i gofnodion cyfrifiadurol yr heddlu yn 2022.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts yn Llys y Goron Caernarfon wrth y cyn-Dditectif Arolygydd Emma Gardner, 47 oed, o Fae Colwyn: “Rwy’n cymryd y farn bod angen dedfryd o garchar ar unwaith oherwydd y budd cyhoeddus eithriadol mewn atal ymddygiad o’r fath gan swyddogion yr heddlu.

“Mae angen dedfryd o garchar ar unwaith i’w gwneud yn glir nad yw hyd yn oed ditectif arolygwyr uwchlaw’r gyfraith.”

Fe gafwyd Gardner yn euog gan reithgor yn dilyn achos llys.

26 mlynedd o wasanaeth

Dywedodd Chloe Fordham ar ran yr amddiffyniad fod y cyn swyddog heddlu wedi gweithio fel heddwas am 26 mlynedd gan ddelio gydag 13 o farwolaethau plant mewn 11 mis, gan ddioddef problemau iechyd meddwl o ganlyniad.

Ychwanegodd fod Gardner wedi dioddef straen wedi trawma.

Efallai ei bod hi o ganlyniad wedi bod yn “agored i niwed yn emosiynol ac yn agored i ganmoliaeth,” meddai.

Ymunodd Gardner â Heddlu Gogledd Cymru yn 2000 gan weithio mewn amrywiol swyddi, gan gynnwys gweithio gyda’r Uned Diogelu Pobl Agored i Niwed. 

Clywodd y rheithgor ei bod wedi derbyn canmoliaeth am ei hymroddiad yn ystod un ymchwiliad.   

Daeth ei chwymp syfrdanol wedi iddi basio gwybodaeth i ddyn oedd yn gweithio ym maes diogelwch fel swyddog drws ('bouncer') pan oedd hi'n heddwas yn y Rhyl. 

Daeth y ddau yn ffrindiau ar Facebook ac fe gafodd y ddau ryw ddwywaith.

Cofnodion

Dywedodd Andrew Scott ar ran yr erlyniad fod y ditectif wedi chwilio drwy gofnodion yn ymwneud â “chwyn eithaf bach” a “sibrydion a si” yn ymwneud â’i ffrind gwrywaidd.

Roedd y mater yn destun ymchwiliad gan swyddogion yr heddlu yn barod,

Mewn un neges, dywedodd Gardner: “Mae gen i fy nefnyddiau.”   

Mynnodd y swyddog nad oedd hi wedi edrych ar y cofnodion oherwydd ei pherthynas gyda'r dyn. 

“Credaf fod pob tro y chwiliais am y wybodaeth wedi bod at ddiben plismona,” meddai Gardner wrth roi tystiolaeth.

Roedd hi wedi edrych drwy 13 ffeil “digwyddiad” oedd yn ymwneud â ffrind, heb unrhyw ddiben plismona, ar 47 achlysur rhwng mis Ionawr 2022 a mis Medi 2022.

Gwybodaeth sensitif

Dywedodd y Barnwr Petts fod systemau cyfrifiadurol yr heddlu yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth sensitif, ac roedd cyrchu’r wybodaeth honno at ddibenion personol wedi’i wahardd. 

Dywedodd fod Gardner wedi dweud celwyddau.

Dywedodd wrthi: “Roeddech yn swyddog uwch gyda mwy nag 20 mlynedd o wasanaeth. Roeddech yn gwybod y rheolau, ac fe’u torrodd yn fwriadol.”

Wrth ymateb i'r ddedfryd, dywedodd Leighton Mawer o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Fe wnaeth Emma Gardner gamddefnyddio’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddi fel heddwas.

“Mae cofnodion yr heddlu’n cynnwys gwybodaeth sensitif a dim ond at ddibenion plismona y dylid cael mynediad atynt.

“Mae holl swyddogion yr heddlu’n cael eu dal i safonau uchel, ond roedd gweithredoedd y swyddog hwn yn is na’r safonau hynny.

“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron a arweiniodd at ddyfarnu’r rheithgor yn euog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.