Carcharu chwech o bobl am oes am lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf
Mae chwech o bobl wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio menyw wedi i anghydfod rhwng gangiau troseddol droi'n dreisgar.
Cafodd Joanne Penney, 40 oed, ei saethu'n farw gan Marcus Huntley, 21 oed, ar ôl iddi agor drws fflat ffrind yn Llys Illtyd, Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, ym mis Mawrth y llynedd.
Cafodd Huntley ei garcharu am o leiaf 30 mlynedd a 146 diwrnod.
Fe gafodd Renaldo Baptiste, 39 oed, oedd wedi cynorthwyo i drefnu’r llofruddiaeth o’r carchar, ei garcharu am o leiaf 42 mlynedd am ei ail gollfarn o lofruddiaeth.
Cafodd aelodau eraill y gang eu dedfrydu i garchar am oes gan Mr Ustus Fordham yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Jordan Mills-Smith, 34 oed, ei garcharu am o leiaf 27 mlynedd, cafodd Joshua Gordon, 28 oed, ddedfryd o o leiaf 32 mlynedd, gyda Melissa Quailey-Dashper, 40 oed, yn derbyn dedfryd o o leiaf 14 mlynedd.
Bydd Kristina Ginova, 22 oed, yn treulio o leiaf 12 mlynedd dan glo.
Wrth gyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd y barnwr: “Roedd Joanne Penney yn ddioddefwr diniwed mewn rhyfel cyffuriau. Roedd hi’n 40 oed.
“Y cyfan a wnaeth hi oedd agor drws ffrynt yn nhŷ ffrind. Ni all unrhyw gyfnod o garchar adlewyrchu gwerth y bywyd a gymerwyd i ffwrdd trwy ei llofruddio.”
Disgrifiodd y barnwr sut yr oedd aelodau o deulu Ms Penney wedi rhoi datganiadau dioddefwyr i’r llys, gan ddisgrifio effaith ei marwolaeth.
“Dyfodol gafodd ei gipio, teulu cyfan wedi’i saethu drwy’r galon pan gafodd Joanne Penney, y fam, y ferch a’r chwaer, a garwyd gan gynifer o deulu a ffrindiau, ei chymryd mor ddi-synnwyr,” meddai.
'Bwlch nad oes modd ei lenwi'
Mewn datganiad yn dilyn y dedfrydu, dywedodd teulu Joanne Penney eu bod yn "parhau i fyw gyda'r golled ddinistriol o golli Joanne" a bod yr hyn ddigwyddodd "wedi gadael bwlch nad oes modd ei lenwi yn ein teulu".
"Mae poen ei cholli yn rhywbeth y byddwn yn ei gario gyda ni bob dydd," medden nhw. "Ni all dim byd fyth wneud yn iawn am yr hyn a gymerwyd oddi wrthym na dod â Joanne yn ôl i'r rhai a'i carodd.
"Roedd Joanne yn ferch, mam, chwaer a nith oedd yn cael ei charu'n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder a'i chariad at ei theulu byth yn cael eu hanghofio."
Ychwanegodd y teulu: "Hoffem ddiolch i'r heddlu am eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad a'u cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Mae eu hymdrechion wedi cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn ystod yr amser anodd yma."
Bydd pump o ddiffynyddion eraill, Sai Raj Manne, 26 oed, Molly Cooper, 33 oed, Callum Kelleher, 37 oed, Laura John, 23 oed, a Donna James, 51 oed, yn cael eu dedfrydu’n ddiweddarach am droseddau sy’n gysylltiedig â’r llofruddiaeth.
