Y carcharor Christa Pike 'mewn cyflwr difrifol' ar ôl goroesi dau bigiad angheuol
Mae'r carcharor yn yr Unol Daleithiau Christa Pike mewn cyflwr difrifol ac yn derbyn gofal i achub ei bywyd yn yr ysbyty ar ôl goroesi dau bigiad angheuol yn ôl ei chyfreithwyr.
Mae hyn wedi arwain at lywodraethwr talaith Tennessee yn atal pob dienyddiad am flwyddyn.
Fe gafodd Pike, 50 oed, ei dedfrydu i farwolaeth ym 1996 am lofruddio Colleen Slemmer. Mae ei chyfreithwyr yn gofyn i'w dedfryd gael ei lleihau.
Cafodd Pike ei chwistrellu â dau ddos angheuol o bentobarbital ddydd Mercher ond mae'n parhau yn fyw yn ôl ei chyfreithwyr. Cafodd ei chludo yn ddiweddarach i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Roedd Pike yn 18 oed ar y pryd pan y gwnaeth hi, a'i chariad ar y pryd, Tadaryl Shipp, lofruddio Slemmer, 19 oed.
Roedd yr ymgais i'w dienyddio ddydd Mercher yn destun brwydr gyfreithiol funud olaf, gyda hyn yn arwain at y Goruchaf Lys yn caniatáu iddynt fwrw ymlaen â'r pigiadau.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd beth aeth o'i le.
Mae Adran Cywiriadau Tennessee wedi amddiffyn y dull a gafodd ei ddefnyddio, gan ddweud "nad yw’r protocol yn caniatáu ar gyfer gweithdrefnau ychwanegol y tu hwnt i’r hyn a gynhaliwyd".
Nid yw'r awdurdodau wedi dweud a fyddant yn ceisio dienyddio Pike unwaith eto, ac nid ydynt chwaith wedi egluro pam nad oedd y dos a roddwyd i Pike yn angheuol.
Mae gwrthwynebwyr i'r gosb eithaf wedi dweud ei bod hi'n anodd gwybod beth aeth o'i le, a hynny oherwydd fod rhan o'r dienyddiad wedi digwydd y tu ôl i len.
Mae llywodraethwr talaith Tennessee Bill Lee wedi gorchymyn adolygiad annibynnol i'r hyn aeth o'i le.
Dyma'r ail dro yn 2026 i swyddogion yn Tennessee geisio a methu i ddienyddio carcharor.