Canlyniadau Lefel A: Cynnydd bychan yn nifer y graddau A*-A
Mae'r graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Lefel A yng Nghymru wedi cynyddu ychydig bach ers y llynedd.
Roedd canran y graddau A* ac A Safon Uwch yn 29.6% eleni, sef cynnydd o gymharu â 29.5% yn 2025.
Roedd y ganran yn 29.9% yn 2024.
Mae canlyniadau Safon Uwch Cymru eleni yn dangos bod 97.7% o fyfyrwyr wedi ennill graddau A* i E, sef cynnydd o 0.2% o gymharu â llynedd.
Enillodd 10.7% radd A*, ac roedd 29.6% o ganlyniadau yn raddau A* neu A.
Yn 2019, cyn y pandemig Covid-19, y ganran oedd wedi derbyn gradd A* oedd 8.9%.
Roedd cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer arholiadau Safon Uwch yng Nghymru eleni yn 32,633, i fyny 2.6% o gymharu â 2025.
Canlyniadau Safon Uwch, UG a Bagloriaeth Sgiliau Uwch
-Cafodd 32,633 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf hwn.
-Roedd 10.7% o ganlyniadau Safon Uwch eleni yn raddau A*, roedd 29.6% o ganlyniadau yn raddau A* neu A, ac roedd 97.7% o ganlyniadau yn raddau A* i E.
-Cafodd 42,082 o raddau UG eu dyfarnu yr haf hwn - i fyny 5.4% o gymharu â 2025.
-Cafodd graddau eu dyfarnu i 17,875 o ddysgwyr yng Nghymru yr haf hwn - o gymharu â 17,010 yn haf 2025.
-Mae 22.5% o ganlyniadau UG eleni yn raddau A, ac mae 90.7% o ganlyniadau yn raddau A i E.
-Ar gyfer unigolion 17 oed yn sefyll cymwysterau UG cymeradwy, roedd 22.8% o ganlyniadau yn raddau A, ac mae 90.1% o ganlyniadau yn raddau A i E.
-Safodd 12,237 o ddysgwyr y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch yr haf hwn, o gymharu â 10,969 yn haf 2025.
-O'r canlyniadau a ddyfarnwyd, roedd 8.0% yn raddau A*, 29.0% yn raddau A* neu A, a 97.4% yn raddau A* i E.
Yn Lloegr, roedd canran y graddau A* ac A yn 28.3%, sef cynnydd bach o'r llynedd (28.2%).
Yng Ngogledd Iwerddon, roedd canran y graddau uchaf yn 30.7%, sef cynnydd o 0.4% o'r llynedd.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Choleg Sir Benfro yn Hwlffordd fore dydd Iau, gan gyfarfod â myfyrwyr oedd yn casglu eu canlyniadau.
Dywedodd: "Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Fe ddylech fod yn hynod falch o'r hyn 'dych chi wedi'i gyflawni. P'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol, am ddilyn prentisiaeth, yn dechrau mewn cyflogaeth neu'n ystyried eich camau nesaf, mae digon o gyfleoedd cyffrous o'ch blaenau.
"Dw i hefyd eisiau cydnabod y gefnogaeth ddiwyro gan athrawon a staff addysg y mae eu hymdrechion wedi chwarae rhan hanfodol yng nghamp y dysgwyr hyn."
'Carreg filltir'
Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Dylech chi fod yn falch o'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni."
"Mae diwrnod canlyniadau yn garreg filltir bwysig, a bydd llawer o ddysgwyr nawr yn edrych ymlaen at eu camau nesaf.
"Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud nesaf - symud ymlaen i'r brifysgol, parhau â'ch addysg yn y coleg, dechrau prentisiaeth neu fentro i'r byd gwaith - bydd eich cymwysterau yn aros gyda chi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni a'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi wedi'u datblygu.
"Efallai na fydd rhai dysgwyr yn cael y canlyniadau roedden nhw wedi gobeithio amdanynt. Os felly, ceisiwch beidio â phoeni. Mae cefnogaeth ar gael, a gall eich ysgol neu goleg eich helpu chi i ddeall eich opsiynau a phenderfynu ar y camau nesaf gorau.
"Hoffem ddiolch i bawb ym mhob rhan o’r system addysg a chymwysterau sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn."