Cân fuddugol Cân i Gymru yn 'cynnig cysur' i bobl sydd yn galaru

Enillwyr Can i Gymru 2026

Mae enillwyr Cân i Gymru 2026 yn gobeithio bod eu cân fuddugol yn “cynnig cysur” i bobl sydd yn galaru.

‘Y Gân’, gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer, ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth, a gafodd ei chynnal ar faes Sioe Môn nos Sadwrn.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Geth Tomos, sydd yn wreiddiol o Fôn, ei fod yn uchafbwynt ei yrfa gerddorol.

“Fel cerddor, hwn ydi’r ultimate. Ac hefyd i ennill o yn Ynys Môn...dwi di bod yn gerddor ers blynyddoedd yn trio cal ryw fath o lwyddiant, ag odd gen i wir deimlad nos Sadwrn bod hwn yn bwynt yn fy ngyrfa gerddorol i.

“Dwi just yn mor falch i gael y cyfle i ennill o.”

Ychwanegodd Emlyn Gomer, o Gaernarfon, a ysgrifennodd eiriau’r gân: “Mae o’n un o’r anrhydeddau mwya’ fedri di gael. Y top cystadleuaeth yn dy wlad dy hun, felly dydi o ddim yn dod yn well na hynny nadi.”

Cyfansoddi

Daeth egin ‘Y Gân’ gan Geth, oedd yn gweithio ar y gerddoriaeth ar y cyd gyda Henry Priestman. Cerddor proffesiynol ydy Henry a gyrhaeddodd frig siartiau’r DU yn y 1980au gydag albwm a sengl rhif un, gyda’i fand The Christians.

Unwaith roedd y ddau’n hapus gyda’r strwythur a’r trefniant, fe gafodd y syniad ei anfon at eu cyfaill, Emlyn.

Ar ôl ei chael hi’n anodd canfod y geiriau i ddechrau, dywedodd Emlyn mai galaru am golli tri ffrind, Iwan Môn, Carey Cartwright a Gareth Llwyd Dafydd oedd wedi ei ysbrydoli.

“O’n i’m yn siŵr efo’r man cychwyn,” meddai Emlyn, sydd yn ysgrifennu sgriptiau i raglenni teledu, gan gynnwys Pobol y Cwm.

“Ond be oedd 'di digwydd i fi’n bersonol yn y cyfnod hynny oedd bo’ fi ‘di colli tri ffrind yn eitha agos i’w gilydd, wedyn odd hynny’n sicr yn fy mhen i pan o’n i’n cychwyn sgwennu. 

"Ac wedyn pan ddoth y llinell, ‘bywyd wedi dwyn dy lais’ rywsut na’i gilydd, nath hynny agor y clo ac mi ddoth o’n reit llyfn wedyn ar y cyfan.

Image
Sara Owen
Fe gafodd 'Y Gân' ei pherfformio gan Sara Owen, a gyrhaeddodd rownd derfynol cyfres Y Llais y llynedd

Ychwanegodd: “Mae’r tri cyfaill yna yn bendant yna ond mae Geth wedi colli pobol hefyd a Henry wrth gwrs, mae 'na lot o bobl yn y gân ma’ lly.”

Roedd teimlad ei fod wedi cyrraedd "dimensiwn newydd" ar ôl cyfraniad y drymiwr Deian ‘Dei’ Elfryn, ac yna’r lleisydd, Sara Owen. Fe gyrhaeddodd Sara rownd derfynol cyfres Y Llais y llynedd.

“Hyd yn oed pan nesh i gal recording ffôn gan Sara, odd hwnna’n anhygoel. Ond pan naetho hi neud yn y stiwdio, oddo’n wirioneddol anhygoel,” meddai Geth.

“Nath hi ddod i mewn i’r stiwdio’n gwenu’n braf – ‘reit, da chi isho fi neud take rŵan?’Mewn a hi – a ‘sa ni ‘di gallu cymud y take cyntaf. Oddo’n sbot on,” ychwanegodd Emlyn.

'Meddwl am anwyliaid'

O blith 103 o ganeuon yng nghystadleuaeth eleni, cafodd dwy gân gan y tîm cyfansoddi eu dewis ar restr fer yr wyth olaf – sef ‘Y Gân’ a ‘Chwilio am Ffordd Adra’. Ac roedd pawb yn nerfus yn disgwyl am gyhoeddiad y tri uchaf gan Elin Fflur.

Dywedodd Geth: “Odd o’n amhosib galw’r peth. Achos mi oedd na ganeuon cry’ yna, a doeddwn i ddim efo’r teimlad bod ni’n sicr am guro.

“Pan ddaeth yr alwad, ‘Y Gân sydd wedi ennill’ - odd fy mrên i just yn flood o bobl oni’n meddwl amdan. Fy nhad, fy ffrindiau dwi wedi golli - dim mewn ffor’ depressing ond o’n i just yn meddwl amdanyn nhw, a bod hyn i gyd yn arwain at hyn.”

Dywedodd Emlyn: “Dwi’n siŵr bod 'na lot o bobol oedd yn clywed y gân am y tro cynta, yn meddwl am yr anwyliaid maen nhw 'di golli.

Image
Geth ag Em
Geth Tomos ac Emlyn Gomer

“Mi fyswn i’n gobeithio bod o di gallu bod yn ryw fath o gysur i bobol rywsut yn ganol y galar, bod 'na ddiolchgarwch hefyd, dim just y galar o golli rhywun ond y diolchgarwch o gael nabod nhw, bod 'na rwbath positif allan o hynny.”

Gŵyl Ban Geltaidd

Ar ôl ennill y darian, mae’r ddau’n dweud eu bod am ei rannu rhyngddynt a’i chadw adref yn eu tro.

Yn athro a thiwtor cerddoriaeth mewn ysgolion ym Môn a Gwynedd, mae Geth yn dweud bod disgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont yn Llangefni wedi bod “wrth eu boddau” yn gweld a gafael yn y darian.

Mae sylw’r ddau nawr yn troi at yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, fis nesaf, gyda ‘Y Gân’ yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth.

Heb fand y stiwdio Cân i Gymru i gyfeilio, mae’r ddau’n edrych ymlaen at ei chlywed gyda threfniant gwahanol, gyda Sara yn ei chanu unwaith eto.

Dywedodd Geth: “'Da ni di gwneud ein bit. Cân Sara ydi hi rŵan – ar profile Spotify Sara fydd o. Mae ganddi’r ddawn ac mae’r gân yn gallu cael ei berfformio yn unrhyw le. Dwi'n meddwl bydd hi'n fwy gwerinol yn yr ŵyl, so ma hwnna’n rwbath rili exciting.

“Ma' cal mynd i Iwerddon i gynrychioli dy wlad, what’s not to like? Dwi’n cal trip ar y llong, dwi’n cal aros mewn gwesty, a dwi’n edrych ymlaen cal amball i beint Guinness ella.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.