Caernarfon: Dirwy o £40,000 i gwmni am ddinistrio cartref ystlumod

Ystad Ddiwydiannol Peblig

Mae cwmni wedi derbyn dirwy o £40,000 am ddymchwel adeiladau oedd yn cael eu defnyddio gan ystlumod ar ystâd ddiwydiannol yng Ngwynedd.

Fe wnaeth FI Real Estate Management, o Chorley, Sir Gaerhirfryn, gyfaddef difrodi neu ddinistrio adeiladau oedd yn cael eu defnyddio gan ystlumod soprano pipistrelle, ystlumod cyffredin pipistrelle ac ystlumod pedol lleiaf ar gyfer lloches ar ystâd ddiwydiannol Peblig yng Nghaernarfon yn 2024.

Roeddynt wedi gwneud hynny yn "fwriadol neu'n ddi-hid" yn ôl y cyhuddiad yn eu herbyn.

Mewn llys yn Llandudno ddydd Mercher, cafodd y cwmni ddirwy o £40,000 a gorchymyn i dalu gordal o £2,000.

Dywedodd y barnwr sirol Gwyn Jones fod y cwmni “mewn sefyllfa anodd” wrth geisio cydbwyso eu cyfrifoldebau dros fywyd gwyllt â diogelwch tresmaswyr.

Dywedodd Lee Hughes ar ran y cwmni fod tŷ ystlumod gwerth £33,000 wedi’i adeiladu, ac yn ôl pob golwg wedi’i ddefnyddio, ond methodd â chyrraedd y safonau gofynnol. 

Roedd gan y cwmni drosiant o £18 miliwn ac roedd yn fusnes “cyfrifol”, ychwanegodd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.