Caernarfon: Cloddio i weld a oes ffordd Rufeinig ar safle datblygiad tai

Segontium

Mae archaeolegwyr wedi bod yn cloddio i weld a oes tystiolaeth o ffordd Rufeinig drwy safle datblygiad tai ger caer Segontium yng Nghaernarfon.

Roedd tystiolaeth yn awgrymu y gallai llwybr oedd yn dyddio o’r Oesoedd Canol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol fod “yn dilyn llwybr y ffordd Rufeinig neu’n cynnwys rhannau ohono,” medden nhw.

Mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynllun am 36 o gartrefi ar y tir amaethyddol oddi ar Ffordd Llanberis, gydag amodau.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Daniel Parry o Adra (Tai) Cyf drwy’r asiant Steve Grimster o Grimster Planning. Byddai’r datblygiad yn darparu 10 fflat, tri byngalo a 23 o dai.

Roedd y safle wedi denu sylw oherwydd ei fod yn agos at Segontium, sy’n dyddio’n ôl i 77 OC.

Image
Lleoliad y datblygiad yng Nghaernarfon
Lleoliad y datblygiad arfaethedig yng Nghaernarfon

Mae adroddiad gan Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru ar sail gwaith gan CR Archaeology yn dweud eu bod nhw wedi ymchwilio i weld a oedd ffordd rhwng caerau Segontium (Caernarfon) a Canovium (Caerhun, Conwy) yn croesi’r safle.

Roedd “sail gref dros gredu ei bod yn croesi” y safle medden nhw, ond ni chafodd unrhyw ddeunydd Rhufeinig ei ganfod yn ystod y cloddiad.

“Er bod arteffactau’n awgrymu dyddiad o ddiwedd yr Oesoedd Canol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol, ni ellir diystyru’r posibilrwydd bod y nodwedd yn dilyn llwybr y ffordd Rufeinig neu’n cynnwys rhannau ohono,” medden nhw.

Ychwanegodd: “Mae’r dystiolaeth am hyn yn deillio o wrthglawdd sy’n weladwy mewn data LiDAR o fewn safle’r cais, ac o rannau o ffordd Rufeinig sydd wedi eu canfod ar hyd yr un llinell, yn enwedig wrth adeiladu ffordd osgoi Caernarfon tua 1.6km i’r gogledd-ddwyrain.

“Mae safle’r cais tua 750m o Segontium, ac mae'n parhau ar hyd y llinell hon yn syth ar draws y safle at fynedfa dde-ddwyreiniol y gaer.

“Er bod canlyniadau’r asesiad yn negyddol ar y cyfan, cafodd arwyneb coblog ei gofnodi mewn dwy ffos, a oedd yn cyfateb i’r nodwedd dir yn y data LiDAR ac i ganlyniadau’r arolwg geoffisegol.

“Hyd yn oed pe bai’r gwaith yn canfod bod y ffordd wedi gwyro o’i llwybr, byddai hyn yn dystiolaeth bwysig wrth fapio rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig y rhanbarth. 

“Byddai felly’n helpu i lywio argymhellion ynghylch ble y gellid disgwyl olion Rhufeinig wrth ystyried cynigion datblygu yn y dyfodol.

“Mae ein dealltwriaeth o’r dirwedd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar hefyd yn gyfyngedig. 

“Felly, pe bai’r ffordd yn dyddio o’r cyfnod hwn mewn gwirionedd, byddai hynny hefyd yn wybodaeth o bwys lleol.”

Image
Cynllun y datblygiad
Cynllun y datblygiad

Dadansoddiad manwl

Dywedodd yr adroddiad fod yr asesiad wedi “lleihau’r risg archaeolegol”, ond bod “presenoldeb neu absenoldeb y ffordd Rufeinig, neu’r posibilrwydd ei bod wedi gwyro o’i llwybr, yn parhau i fod o ddiddordeb archaeolegol”.

“Yn ogystal, byddai cadarnhau llwybr canoloesol neu ôl-ganoloesol yn cyfrannu at ddealltwriaeth o’r dirwedd hanesyddol leol.”

Roedd yn cael ei ystyried yn “angenrheidiol” gosod amod archaeolegol ar y cais “i sicrhau rhaglen gymesur o waith i liniaru’r effaith ar archaeoleg”.

Rhaglen i “dynnu’r uwchbridd, mapio a chofnodi cyn dechrau’r gwaith adeiladu” oedd y “dull mwyaf priodol”, yn ôl yr adroddiad, ynghyd ag unrhyw waith asesu, adrodd ac archifo angenrheidiol.

Cafodd y penderfyniad i ganiatáu’r tai gydag amodau ei gyhoeddi ar borth cynllunio Cyngor Gwynedd.

Roedd yr amodau’n cynnwys cyflwyno adroddiad dadansoddol manwl ar y gwaith archaeolegol i’r awdurdod cynllunio lleol o fewn 12 mis i gwblhau’r gwaith archaeolegol ar y safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.