Caernarfon: Caniatáu trwydded i fragdy er gwaethaf pryderon am sŵn
Mae trwydded wedi ei chaniatáu i fragdy a bar newydd yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon, er gwaethaf pryderon am sŵn ac arogleuon posib o'r safle.
Fe gymeradwyodd is-bwyllgor trwyddedu canolog Cyngor Gwynedd gais am drwydded eiddo gan Fragdy Nonsens yn amodol.
Bydd yn rhaid i'r cwmni ddatrys y materion cynllunio sy'n weddill cyn y gall y busnes weithredu o dan y drwydded.
Fe allai'r broses gymryd sawl wythnos eto.
Yn ystod y gwrandawiad, fe ddywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones ei fod yn credu bod Non Edwards, a gyflwynodd y cais am drwydded, wedi cael ei thrin yn annheg yn ystod y broses.
Cyfeiriodd at nifer o fwytai a busnesau eraill yn yr ardal, yn ogystal â chanolfan Galeri gerllaw, gan ddweud bod Doc Fictoria eisoes yn ardal brysur ag amrywiaeth o ddefnyddiau.
Roedd yn cwestiynu'r pryderon ynghylch arogleuon, gan ddweud mai am gyfnod byr wrth ferwi'r gymysgedd fragu y byddai arogleuon yn debygol o gael eu cynhyrchu, ac mai unwaith neu ddwywaith y mis yn unig y byddai hynny'n digwydd.
Ychwanegodd y byddai'r busnes yn defnyddio systemau awyru o safon uchel a gafodd eu gosod pan gafodd Doc Fictoria ei adeiladu.
Roedd Ms Edwards wedi gwneud cais am ganiatâd i werthu alcohol, cynnal cerddoriaeth fyw a pherfformiadau acwstig, a chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio yn y bar.
Roedd hi hefyd wedi gofyn am gadw'r bar ar agor tan 23:00, gyda 45 munud ychwanegol i gwsmeriaid orffen eu diodydd, ond roedd amod cynllunio yn cyfyngu'r oriau agor tan 22:00.
Pwysleisiodd mai gofod bach fyddai'r bar, ac nad oedd y cynlluniau ar gyfer perfformiadau cerddorol yn golygu cynnal digwyddiadau gyda drymiau a systemau sain mawr.
Agos at dai a gwestai
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Ffion Lewis o wasanaeth gwarchod y cyhoedd Cyngor Gwynedd nad oedd gan y gwasanaeth wrthwynebiad i'r busnes weithredu, ond bod pryderon oherwydd ei agosrwydd at dai, busnesau a gwesty.
Dywedodd fod swyddogion wedi cael cyfle i edrych yn fras ar gynllun rheoli sŵn y busnes ar fore'r cyfarfod yn unig.
Er bod yr ymgeisydd wedi nodi mai cerddoriaeth achlysurol ac acwstig fyddai'n cael ei chynnal, roedd cynlluniau hefyd i gynnal perfformiadau a nosweithiau DJ bedair gwaith y mis.
Yn ôl Ms Lewis, gallai hynny olygu digwyddiadau bob penwythnos.
Dywedodd Ms Edwards ei bod wedi cyflwyno adroddiad i'r adran gynllunio y diwrnod cynt, yn ymateb i'r pryderon am sŵn ac arogleuon.
Gofynnodd hefyd a fyddai modd dileu'r cyfyngiad ar agor tan 22:00.
Materion cynllunio 'heb eu datrys'
Dywedodd swyddog cynllunio'r cyngor, Arwel Thomas, fod anghysondebau rhwng yr oriau agor yn y cais cynllunio a'r rhai yn y cais am drwydded.
Roedd swyddogion yn dal i wirio gwybodaeth a gafodd ei chyflwyno, gan gynnwys a oedd y ffioedd cywir wedi'u talu.
Dywedodd y gallai hynny achosi oedi cyn i'r adran gynllunio ddod i benderfyniad, gan fod angen ystyried gwybodaeth newydd hefyd.
Er bod y drwydded wedi'i chaniatáu gydag amodau, ni fydd modd i Fragdy Nonsens weithredu o dan y drwydded nes bod y materion cynllunio perthnasol wedi'u datrys.