Caerfyrddin: Arestio dau ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi anafiadau difrifol i ddyn
Mae heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at ddyn yn cael triniaeth ysbyty am anafiadau difrifol yn ardal Caerfyrddin.
Fe aeth swyddogion i eiddo yn ardal Brynmeurig ar ôl cael gwybod gan staff ysbyty am 01.20 fore Mercher fod dyn wedi mynd yno gydag anafiadau difrifol.
Cafodd pedwar o bobl eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae dau, dyn 35 oed a dynes 30 oed, bellach wedi eu ryddhau ar fechniaeth amodol, a dau arall, dynes 49 oed a dyn 40 oed, wedi eu ryddhau yn ddigyhuddiad.
Mae'r dyn a gafodd ei anafu wedi gadael yr ysbyty erbyn hyn.
