Gwynedd: Oedi i gael hofrennydd i gefnogi ymdrechion i ddiffodd tân gwyllt

Tân Meirionnydd

Ni fydd hofrennydd ar gael i gefnogi ymdrechion i ddiffodd tân gwyllt sydd wedi llosgi ardal thua 2,000 erw ym Meirionnydd tan wythnos nesaf.

Mae criwiau tân wedi bod yn brwydro’r tân, sy’n llosgi ger llyn Cwm Bychan, ym mynyddoedd y Rhinogydd, ers rhai dyddiau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub bod criwiau’n wynebu “amodau heriol”, gan nad oes modd cyrraedd rhan helaeth o'r ardal sydd wedi’i heffeithio gan y tanau ar droed na gyda cherbydau.

O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi gwneud cais am gefnogaeth awyrol, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd y cais ei gymeradwyo, ond nid yw’r hofrennydd ar gael tan wythnos nesaf, oherwydd y “galw o ganlyniad i danau gwyllt mewn ardaloedd eraill ar draws y DU".

Mae disgwyl i griwiau tân aros yn yr ardal am beth amser. 

Mae criwiau wedi cadw mewn cysylltiad â pherchnogion sawl eiddo a safle gwersylla, ond nid oes angen arnyn nhw i adael eu heiddo ar hyn o bryd, yn ôl y gwasanaeth.

Dywedodd Jody McEachern, Pennaeth Atal Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd: "Ein ffocws o hyd yw cyfyngu'r tân mor effeithiol â phosibl, wrth fonitro amodau newidiol a diogelu'r amgylchedd cyfagos.

“Efallai y bydd mwg yn weladwy mewn rhai cymunedau cyfagos. Os ydych chi wedi'ch effeithio gan fwg, cadwch ffenestri a drysau ar gau nes bod y mwg wedi gwasgaru.

“Unwaith y bydd yr amodau wedi gwella, agorwch ffenestri a drysau i awyru'ch cartref.”

Dywedodd Ms McEachern bod criwiau dal i “fonitro'r sefyllfa ar y mynydd ger Capelulo ac yng Nghoedwig Braichmelyn, Bethesda.”

“Gofynnwn i'r cyhoedd osgoi'r ardaloedd hyn tra bod gweithrediadau diffodd tân yn parhau.”

Llun: Gwasnaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.