Caerdydd yn sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth
Mae Caerdydd wedi sicrhau dyrchafiad i’r Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Reading ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth yr Adar Gleision sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r ail haen ar ôl un tymor yn unig yn Adran Un.
Roedd angen iddyn nhw sicrhau canlyniad gwell na Stockport, a oedd wedi gobeithio gorffen yn yr ail safle.
Fe sicrhaodd goliau gan y Cymro Rubin Colwill, Omari Kellyman a Perry Ng fuddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Reading.
Methodd Stockport â sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Exeter, gyda'r gêm yn gorffen 3-3.
Bydd Caerdydd yn ymuno â Lincoln, sydd eisoes wedi sicrhau dyrchafiad i’r Bencampwriaeth ac yn eistedd ar frig Adran Un.
Roedd dros 2,700 o gefnogwyr Caerdydd yn bresennol yn Reading ddydd Sadwrn i wylio’r Adar Gleision yn sicrhau dyrchafiad.