Caerdydd: Gorchymyn ysbyty i ddyn am geisio herwgipio plant mewn parc
Bydd dyn a wnaeth gyfaddef i geisio herwgipio plant o barc yng Nghaerdydd ac o feithrinfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gadw dan ofal ysbyty iechyd meddwl.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe wnaeth Moynul Janu geisio herwgipio dau blentyn o dan bum mlwydd oed ym Mharc Fictoria yn y brifddinas, cyn ceisio mynd i fewn i'r feithrinfa y diwrnod canlynol.
Fe ymddangosodd Janu o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful drwy gyswllt fideo ddydd Iau.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Barc Fictoria yn ardal Treganna o'r Brifddinas ym mis Gorffennaf ar ôl i nifer o adroddiadau godi pryderon ynghylch ymddygiad dyn wrth bwll dŵr y plant yn y parc.
Roedd rhai'n pryderu bod y dyn wedi bod yn tynnu lluniau neu'n recordio plant yn y parc, ond dywedodd swyddogion nad oedd gan Janu ddyfeisiau o'r fath ar ôl i'r heddlu archwilio beth oedd yn ei feddiant ar y pryd.