Caerdydd: Dyn wedi'i garcharu am 20 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol
Mae dyn 67 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol, gan gynnwys treisio merch oedd dan 13 oed.
Cafodd Timothy Weaving ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 18 Tachwedd, ar ôl ei gael yn euog o saith cyhuddiad.
Dechreuodd y troseddau 17 mlynedd yn ôl, gyda'r cam-drin yn parhau am bron i ddegawd.
Clywodd y llys fod Weaving wedi rhoi pwysau ar y ddioddefwraig i dynnu ei chwyn wreiddiol yn ôl.
Cafodd yr effaith a gafodd y cam-drin arni ei disgrifio yn y llys fel un "ddwys, barhaol ac a newidiodd ei bywyd".
Roedd y saith cyhuddiad yn cynnwys treisio plentyn, treisio, dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, dau gyhuddiad o achosi i blentyn dan 13 oed gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ac un cyhuddiad o achosi i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.
Roedd Weaving wedi gwadu'r cyhuddiadau, ond cafodd ei ddyfarnu'n euog yn dilyn achos llys yn gynharach y mis hwn.
Yn ogystal â'r ddedfryd o 20 mlynedd o garchar, bydd Weaving yn wynebu cyfnod estynedig o flwyddyn ar drwydded.
Bydd hefyd yn gorfod cydymffurfio â gofynion cofrestru troseddwyr rhyw a gorchymyn atal niwed rhywiol am weddill ei oes.
'Dewrder eithriadol'
Dywedodd y Ditectif Ringyll Annalisa Bartley o Heddlu De Cymru: "Fe wnaeth Timothy Weaving ei orau i osgoi cyfiawnder drwy roi pwysau ar y ddioddefwraig i dynnu ei chefnogaeth i'r erlyniad yn ôl, a phan fethodd hynny, fe blediodd yn ddieuog yn y llys.
"Ond diolch i ddewrder a chryfder eithriadol y ddioddefwraig, ac ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu, mae bellach yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd ac mae'n bosib iawn y bydd yn treulio gweddill ei oes y tu ôl i fariau."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai'r ddedfryd yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i'r ddioddefwraig.
"Mae'r achos hwn yn enghraifft arall o pam nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddioddefwyr troseddau rhyw ddod ymlaen.
"Waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, bydd Heddlu De Cymru yn mynd ar drywydd y rhai sy'n gyfrifol am droseddau rhyw."
Darllenodd y ddioddefwraig ddatganiad yn y llys, gan ddiolch i'r rhai oedd wedi ei chefnogi drwy gydol yr achos.
Roedd y rhain yn cynnwys y Ditectif Ringyll Bartley, bargyfreithwyr yr erlyniad a'i gweithwyr cymorth.
"Alla i ddim pwysleisio digon pa mor ddiolchgar ydw i i'r rhai sydd wedi fy helpu ac wedi gwrando arna i.
"Rwy'n teimlo na fyddwn i wedi gallu dod ymlaen na mynd drwy'r achos llys heb gymorth y bobl o'm cwmpas.
"Roedd y rhai a'm helpodd bob amser yn dweud wrtha i mai fi fy hun oedd wedi gwneud hyn, ac roedd hynny'n rhoi llawer o hyder i mi ac yn fy helpu drwy'r pethau anoddaf i mi orfod eu hwynebu erioed."
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cymryd pob adroddiad o drais rhywiol o ddifrif, gan annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rywiol i ddod ymlaen, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
