Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru i adael ei swydd
Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (URC), Richard Collier-Keywood wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd.
Cyhoeddodd URC ddydd Gwener y bydd Mr Collier-Keywood yn gadael bwrdd y swyddogion ym mis Gorffennaf, wrth i'w dymor yn y rôl ddod i ben.
Mae wedi bod yn y swydd ers tair blynedd, gan ddweud ei fod wedi bod yn "fraint aruthrol" cael cyflawni'r swydd.
"Mae wedi bod yn fraint aruthrol gwasanaethu fel Cadeirydd Annibynnol cyntaf erioed Undeb Rygbi Cymru," meddai.
"Roeddem am wneud y cyhoeddiad hwn er mwyn galluogi’r broses o ddod o hyd i fy olynydd i ddechrau cyn i’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol gael ei gynnal ar 13 Ebrill 2026, fel bod pawb yn mynd i’r cyfarfod hwnnw gan wybod yr holl fanylion perthnasol am y sefyllfa.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bwrdd newydd wedi gwneud penderfyniadau anodd ac allweddol - gan wneud hynny gydag undod ac unfrydedd.
"Rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i gwblhau fy nhymor yn y swydd - ond mae hynny’n ddibynnol ar y penderfyniadau caiff eu cymryd yn y Cyfarfod Cyffredinol wrth gwrs."
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydd "proses ffurfiol ac agored o benodi Cadeirydd Annibynnol newydd yn dechrau "cyn hir", gyda manylion llawn y broses a’r meini prawf perthnasol ar gyfer y rôl yn cael eu cyhoeddi gan yr Undeb.
Dan y lach
Cafodd Richard Collier-Keywood ei benodi'n gadeirydd yn 2023, wedi i 97% o’r clybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru bleidleisio o blaid strwythur y Bwrdd annibynnol newydd.
Yn y misoedd diwethaf mae'r cadeirydd, ynghyd ag aelodau eraill bwrdd URC wedi bod dan y lach yn sgil cyhoeddiad i dorri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.
Cyhoeddodd yr Undeb ym mis Hydref 2025 eu bod eisiau cwtogi nifer y clybiau proffesiynol yng Nghymru o bedwar rhanbarth i dri fel rhan o ailwampio mawr o'r gêm yn y wlad.
Maen nhw eisiau cael un rhanbarth yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin, gyda'r corff llywodraethol yn credu bod sylfaen o chwaraewyr a'r cyllid wedi'u gwasgaru'n rhy denau ar hyn o bryd.
Bellach mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y Gweilch ar ôl iddo ddod i'r amlwg fod y perchnogion, Y11 Media and Sport, yw'r cynnig mae URC eisiau i gymryd rheolaeth o Gaerdydd.
Hyd yn hyn, dim ond tan ddiwedd y tymor nesaf y mae dyfodol rhanbarth y Gweilch wedi ei sicrhau, gan greu pryderon mai dyma'r rhanbarth fydd yn diflannu.
Byddai'r broses felly yn gadael Caerdydd, y Dreigiau yng Nghasnewydd a'r Scarlets yn Llanelli fel y tri rhanbarth proffesiynol sy'n weddill.
Er gwaethaf pryderon dros ddyfodol y Gweilch, mae Cyngor Dinas Abertawe a’r rhanbarth wedi cyhoeddi cynlluniau “mentrus” ar gyfer ail-ddatblygu maes chwarae Sain Helen.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y cyngor a’r Gweilch eu bod nhw ar fin lansio “cyfnod newydd mentrus i rygbi o safon a chymunedol gyda buddsoddiad mawr yn y maes hanesyddol”.
Mae’r cynnig yn golygu trawsnewid Sain Helen gan gynnwys wyneb chwarae artiffisial 4G fyddai’n cael ei ddefnyddio gan Y Gweilch mewn gemau ac ymarfer, a hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Glwb Rygbi Abertawe ac ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.
