Cadarnhau ymlediad ‘sylweddol’ o’r frech goch ymysg plant yn Llundain

frech goch

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cadarnhau ymlediad “sylweddol” o’r frech goch ymysg plant yn Llundain.

Dywedodd yr asiantaeth bod yr ymlediad o’r frech goch (measles) yn effeithio yn bennaf ar blant nad ydynt wedi derbyn brechlyn ac sydd dan 10 oed yng ngogledd-ddwyrain y brifddinas.

Roedd rhai o’r plant wedi gorfod cael gofal yn yr ysbyty, medden nhw.

Mae mwy na 60 o achosion posibl o'r frech goch wedi cael eu hadrodd gan saith ysgol a meithrinfa yn ardal Enfield, yn ôl papur newydd y Sunday Times.

Mae'r frech goch yn salwch firaol heintus iawn sy’n gallu lledaenu’n hawdd ymhlith unigolion sydd heb eu brechu.

Gall y salwch arwain at gymhlethdodau difrifol mewn rhai achosion, gan gynnwys niwmonia, llid yr ymennydd ac, mewn achosion prin, anabledd hirdymor neu farwolaeth.

Dywedodd Dr Vanessa Saliba, epidemiolegydd ymgynghorol yn yr UKHSA, fod y firws “mor hawdd ei atal gyda dau ddos o’r brechlyn MMRV”.

“Gyda gwyliau’r Pasg yn agosáu’n gyflym, mae’n bwysig atgoffa teuluoedd sy’n teithio dramor i sicrhau bod pob aelod o’r teulu, yn enwedig plant, wedi’u brechu.

“Mae’r frech goch yn gyffredin mewn rhai gwledydd sydd â chysylltiadau agos â’r DU, ac mae achosion yn parhau mewn rhannau o Ewrop.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.