Cadarnhau mai Ceredigion fydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd 2029

Mistar Urdd / Aberystwyth

Mae’r Urdd wedi cadarnhau mai Ceredigion fydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar flwyddyn dathlu canmlwyddiant yr ŵyl.

Fe wnaeth Aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi'r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir yr wythnos diwethaf.

Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards o Aberystwyth, gyda Chanolfan Llangrannog yn cael ei sefydlu ym 1932, sef canolfan gyntaf y sefydliad.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru y bydd yn “flwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl”. 

“Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw’r sylfaen i’r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010,” meddai.

“Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol.”

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Cheredigion oedd yng Nghiliau Aeron yn 2010, a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ei fod yn “achlysur balch iawn” i Geredigion.

Roedd yn “atgyfnerthu’r gwreiddiau a’r cysylltiadau dwfn sydd gan Geredigion â'r Urdd,” meddai.

“Mae’r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny am y tro cyntaf erioed. 

Ardal Caernarfon yn rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028.

Llun: Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.