Cabinet Cyngor Powys i drafod oedi cyn agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt

Ysgol Calon Cymru

Fe fydd Cabinet Cyngor Powys yn trafod oedi posib cyn agor ysgol ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt mewn cyfarfod ddydd Mawrth, oherwydd "heriau" gyda'r gwaith adeiladu. 

Mae disgwyl i Ysgol Bro Epynt, sef ysgol newydd ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 18 oed, agor ei drysau ym mis Medi 2027. 

Fe gytunodd Cyngor Powys i sefydlu'r ysgol newydd ym mis Chwefror 2026. 

Mae'n golygu dod â’r ddarpariaeth Gymraeg i ben yn raddol yn ysgol ddwyieithog Ysgol Calon Cymru, sydd â champysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod. Ni fydd gan Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg yn y dyfodol chwaith.

Y bwriad yw sefydlu Ysgol Bro Epynt ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. 

Bydd Ysgol Calon Cymru yn symud i'r campws yn Llandrindod yn unig.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, fe fydd y cabinet yn trafod yr heriau adeiladu sy'n ymwneud â'r gwaith sydd ei angen ar gampws Llanfair-ym-Muallt Ysgol Calon Cymru i alluogi Ysgol Bro Epynt i agor ar y safle ym mis Medi 2027. 

Fe fydd y cabinet yn ystyried goblygiadau'r heriau yma ar amserlen y prosiect, ac yn ceisio cytuno ar ddull i liniaru'r risg er mwyn cyflawni'r cynllun yn llwyddiannus.

Byddai hyn yn golygu diwygio'r dyddiad gweithedu ar gyfer Cam 1 o 1 Medi 2027 i 1 Medi 2028. 

Cam 1 y Cynigion

O fis Medi 2027, byddai disgyblion derbyn i flwyddyn 9 yn mynd i Ysgol Bro Epynt, gyda Blwyddyn 10 yn cael ei chyflwyno ym mis Medi 2027, Blwyddyn 11 ym mis Medi 2029, Blwyddyn 12 ym mis Medi 2030 a Blwyddyn 13 ym mis Medi 2031. 

Byddai categori iaith Ysgol Calon Cymru yn cael ei newid o ddwy ffrwd i gyfrwng Saesneg. 

Cam 2 y Cynigion

O fis Medi 2029 ar y cynharaf, fe fyddai Ysgol Calon Cymru yn cau ei champws yn Llanfair-ym-Muallt ac yn gweithredu o gampws Llandrindod yn unig, gydag Ysgol Bro Epynt yn cymryd drosodd campws Llanfair-ym-Muallt i gyd. 

Ers i'r cynigion cael eu cymeradwyo, mae nifer o bethau wedi eu cyflawni i fwrw ymlaen â'r prosiect, gan gynnwys sefydlu corff llywodraethu dros dro, cytuno ar enw ar gyfer yr ysgol a phroses recriwtio pennaeth ar y gweill. 

Dywedodd y cyngor ei bod hi wedi dod i'r amlwg fod "heriau sylweddol" yn gysylltiedig â'r broses adeiladu a chaffael sydd ei hangen i ailfodelu'r safle i "ymgorffori cyfleusterau ar gyfer disgyblion cynradd a blynyddoedd cynnar". 

Ychwanegodd y cyngor fod hyn yn cyflwyno "heriau sylweddol wrth gwblhau'r gwaith mewn pryd i alluogi Ysgol Bro Epynt i agor ar y safle ym mis Medi 2027."

Y bwriad yw cynnal proses dendro i benodi contractwr i fynd i'r afael â'r gwaith adeiladu angenrheidiol ar gampws Llanfair-ymMuallt yn ôl y cyngor. 

Ond mae contractwyr wedi rhoi gwybod y byddai angen cyfnod tendro o wyth wythnos i gyflwyno tendrau, tra bod y rhaglen yn rhagfynegi cyfnod tendro o bedair wythnos. 

"Mae hyn felly yn dangos bod perygl na fydd y gwaith adeiladu sydd ei angen ar gampws Llanfair-ym-Muallt yn cael ei gwblhau mewn pryd i alluogi Ysgol Bro Epynt i agor yn yr adeiladau wedi’u hailfodelu ym mis Medi 2027," meddai'r cyngor. 

1 Medi 2028

Mae swyddogion wedi archwilio dau opsiwn posibl a fyddai'n gallu lliniaru'r risgiau.

Yr opsiwn cyntaf fyddai parhau i  agor Ysgol Bro Epynt ym mis Medi 2027. Os nad yw hyn yn bosib, fe fyddai angen gwneud trefniadau dros dro i alluogi'r ysgol i agor. 

Yr ail opsiwn fyddai newid y dyddiad gweithredu ar gyfer Cam 1 y cynnig o fis Medi 2027 i fis Medi 2028, er mwyn cwblhau'r holl waith sydd ei angen ar gampws Llanfair-ym-Muallt. 

Ar ôl ystyried y ddau opsiwn, mae swyddogion o'r farn mai'r opsiwn "risg isaf" yw newid y dyddiad gweithredu ar gyfer Cam 1 o 1 Medi 2027 i 1 Medi 2028. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.