Byddai 'wrth fy modd’ yn gweld Iwerddon unedig, medd Trump

Trump a Michael martin (PA)

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud y byddai “wrth ei fodd” yn gweld Iwerddon unedig.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo gyrraedd Dulyn ar ddechrau ymweliad deuddydd ag Iwerddon.

Dywedodd Mr Trump: "Byddai gan y DU rywbeth i'w ddweud am y peth, ond rwy'n credu y byddai'n beth gwych."

Dywedodd Mr Trump y byddai ailuno Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon "yn digwydd yn y pen draw, felly gystal iddo ddigwydd nawr".

Dywedodd hefyd y byddai gwrthdaro rhwng y DU a'r Ariannin dros Ynysoedd y Falklands yn "drychineb posibl", ond y byddai'n "gallu ei ddatrys" pe bai'n cael ei alw i helpu.

Mae Mr Trump wedi awgrymu yn flaenorol efallai na fyddai'n cefnogi sofraniaeth y DU dros Ynysoedd y Falklands.

Ond dywedodd dydd Sadwrn: "Rwy'n siŵr y caf fy ngalw i ymwneud â'r trychineb posibl hwnnw, ond os bydd hynny'n digwydd, mae'n debygol y byddaf yn gallu ei ddatrys."

Mae Mr Trump wedi cwrdd ag Arlywydd Iwerddon, Catherine Connolly, fel rhan o’i ymweliad deuddydd â’r wlad.

Fe wnaeth Mr Trump hefyd gwrdd â’r Taoiseach , Prif Weinidog Iwerddon, Micheál Martin yn Ystad Farmleigh.

Mae'r Arlywydd wedi cyrraedd yng nghanol yr hyn a ddisgrifiwyd fel un o’r gweithrediadau diogelwch mwyaf a gyflawnwyd erioed gan heddlu Iwerddon (An Garda Síochána).

Gwrandawodd yr Arlywyddion Trump a Connolly ar anthemau cenedlaethol eu gwledydd yn Áras an Uachtaráin ym Mharc Phoenix, Dulyn.

Fe wnaeth Mr Trump gynnal arolygiad o’r gwarchodlu anrhydedd yno fel rhan o’r seremoni groeso.

Fe wnaeth Ms Connolly a gyhuddodd Mr Trump y llynedd o fod yn “ansefydlog” ac o “ymddwyn fel bwli” – gyflwyno dirprwyaeth Iwerddon a chyfarfod dirprwyaeth yr Unol Daleithiau, gan gynnwys rhai o aelodau teulu Mr Trump, fel ei fab Don Jr.

Yn ddiweddarach, bydd Mr Trump yn teithio ar draws y wlad i’w ganolfan golff yn Doonbeg, Sir Clare, sy’n cynnal Pencampwriaeth Agored Iwerddon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.