'Bwrdd iechyd wedi’n methu' medd teulu wedi marwolaeth eu merch o epilepsi
'Bwrdd iechyd wedi’n methu' medd teulu wedi marwolaeth eu merch o epilepsi
Mae teulu o’r Barri a gollodd eu merch mewn trawiad epileptig eisiau “cyfiawnder”, gan deimlo bod y bwrdd iechyd wedi’i “methu”.
Bu farw Megan Gardiner, a oedd yn 25 ar y pryd ac yn feichiog ers 17 wythnos, o drawiad epilepsi sydyn ac annisgwyl, neu SUDEP.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar ar S4C, dywedodd ei mam, Alison, fod yna “siawns y byddai hi'n dal yn fyw petai hi wedi cael y cyfleoedd iawn, y gefnogaeth iawn a’r gofal iawn.”
Yn y cwest i’w marwolaeth ym mis Mai, daeth y crwner i’r casgliad fod Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi colli dau gyfle i egluro’r risgiau o farwolaeth i Megan a’i theulu.
“Mae hi wedi cael ei methu,” meddai ei chwaer, Tesni. “Ni eisiau cyfiawnder ar ei chyfer hi.”
Cafodd Megan, a oedd yn cael trawiadau difrifol ac anghyson, ddiagnosis o epilepsi pan oedd yn 13 oed.
“Doedd dim patrwm i’r trawiadau. Fe allai hi fynd misoedd heb gael trawiad ac yna’n sydyn, fyddai’n cael tri mewn wythnos.”
Erbyn 2022, roedd Megan yn feichiog, a chafodd gyngor i newid ei meddyginiaeth epilepsi ddwywaith er mwyn lleihau unrhyw risg i’r babi.
Ond, ym mis Mehefin, pan oedd yn feichiog ers 17 wythnos, cafodd drawiad difrifol yn ei chwsg.
“Y bore hwnnw, es i i’w hystafell wely,” meddai Alison wrth gofio’r drasiedi. “Ro’n i’n gallu gweld troed Megan o dan y cwilt.
"Ro’dd hi wedi cwympo rhwng y wal a’r gwely, ac yn amlwg wedi marw.
“Na’i fyth allu cael gwared o’r llun hwnna o’m mhen."
Dywedodd Tensi: “Na’th Mam fy ffonio a dweud bod Meg ’di marw, a dwi’n cofio dweud ‘Na, dyw hwnna ddim yn wir, dyw hwnna methu bod yn wir'."
Bu farw Megan o farwolaeth sydyn ac annisgwyl mewn epilepsi, neu SUDEP, sef pan fydd person yn marw yn ystod neu ar ôl trawiad, heb unrhyw achos amlwg arall.
Yn ôl elusen Epilepsy Action, mae SUDEP yn effeithio ar tua 1 ym mhob 1,000 o bobl sydd ag epilepsi yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Ond, i bobl â’r math difrifol o epilepsi a oedd gan Megan, roedd y risg honno’n cynyddu i tua 1 ym mhob 100 o bobl.
Mae’r teulu’n dweud nad oedden nhw na Megan wedi cael gwybod am y lefel honno o risg iddi hi.
“Petai rhywun wedi dweud wrthon ni fod siawns o un mewn 100, fe fydden ni wedi gwneud unrhywbeth o fewn ein gallu i leihau’r risg i Megan,” meddai Alison.
Mae’r teulu’n dweud y gallen nhw fod wedi cadw llygad ar Megan 24 awr y dydd, newid ei rwtîn a rhoi mesurau diogelwch fel larymau ar waith petaen nhw wedi gwybod am y risg.
“Fe ddyle’r bwrdd iechyd wedi rhannu’r wybodaeth gyda ni.”
Fel rhan o’r cwest i farwolaeth Megan, cyflwynwyd dau adroddiad gan niwrolegwyr annibynnol i’r crwner. Roedd y ddau’n nodi fod y gofal a gafodd Megan wedi disgyn islaw’r safon ddisgwyliedig, a bod y methiannau hyn yn debygol o fod wedi cyfrannu at ei marwolaeth.
Daeth y crwner i’r casgliad na fu unrhyw drafodaethau am SUDEP na’r mesurau i leihau’r risg o farwolaeth cyn mis Ebrill 2022, ac ar ôl hynny, roedd y trafodaethau’n rhy gyffredinol.
Fe ofynnwyd i Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro am ddatganiad pellach i ddangos pa welliannau sydd wedi’u gwneud i’r gofal i gleifion ag epilepsi ers colli Megan.
“Ry’n ni’n gwbod does dim byd sy’n gallu newid beth sydd wedi digwydd ond y gobaith yw bod rhywbeth da yn gallu dod allan o marwolaeth Megan,” meddai Tesni.
“Ry’n ni eisiau i fywyd Megan olygu rhywbeth, ac ry’n ni eisiau i’w marwolaeth olygu rhywbeth hefyd,” ategodd ei mam.
“Ro’dd Megan yn haeddu gwell.”
Ymateb
Mewn ymateb, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn “cydymdeimlo’n ddwys gyda theulu Megan Gardiner wedi’u colled drist".
Fe wnaethon nhw “ymrwymo’n llawn i ofynion y cwest”, gan “ddarparu gwybodaeth ychwanegol pan fo angen ar gais y crwner".
Maent yn “awyddus iawn i wrando a dysgu o brofiadau cleifion a’u teuluoedd," ac wedi cynnig i gwrdd â theulu Megan o’r blaen i drafod eu pryderon. “Mae’r cynnig hwnnw yno o hyd.”
Fe fydd rhaglen Y Byd ar Bedwar, Epilepsi: Marwolaeth Megan, i’w weld ddydd Llun 22ain o Fehefin, ar S4C, Youtube, BBC iPlayer a S4C Clic.