Burnham yn ‘faer tref’ a’r DU ‘yn marw’ meddai Trump

Andy Burnham a Donald Trump

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi dweud bod prif weinidog tebygol nesaf y Deyrnas Unedig yn “faer tref” a bod y DU “yn marw”.

Mae Andy Burnham wedi bod yn feirniadol o Donald Trump yn y gorffennol a dywedodd bod gwleidyddiaeth UDA yn “wenwynig” wrth ymgyrchu yn sedd Makerfield.

Wrth i brotestwyr ymosod ar adeilad Capitol yr Unol Daleithiau yn 2021, ysgrifennodd Mr Burnham ar X: “Dylai unrhyw wleidydd yn y DU a oedd yn gyfaill ni Trump fod â chywilydd ar hyn o bryd.”

Yn ei sylwadau cyntaf ar Andy Burnham nos Fercher dywedodd Donald Trump ei fod yn “eithriadol o ryddfrydol” ac nad oedd yn debygol o “agor Môr y Gogledd” i ragor o dyllu am olew.

“Dwn i ddim, dw i’n meddwl ei fod o, mae’n debyg, yn faer tref,” meddai.

“Dw i’n clywed ei fod o’n eithriadol o ryddfrydol, eithriadol o ryddfrydol, felly mae hynny’n golygu na fydd o’n debygol o agor Môr y Gogledd.

“Mi wnes i roi cyngor da iawn i Keir Starmer a dweud, ‘agor Môr y Gogledd’. 

“Maen nhw’n mynd at Norwy a thalu crocbris am eu holew nhw, sy’n dod o Fôr y Gogledd’.

“Mae gan Norwy $2 triliwn yn y banc ac mae’r DU yn marw.”

‘Gwych’

Yn y cyfamser mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi dweud y bydd yn “cefnogi” Andy Burnham i fod yn brif weinidog nesaf y DU.

Daw ei sylwadau er gwaethaf dyfalu y bydd hi’n cael ei disodli fel Canghellor pe bai Burnham yn cael y swydd.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Rachel Reeves nad oedd hi am “ddyfalu am y penderfyniadau y bydd y prif weinidog newydd yn eu gwneud”.

“Rydw i’n cefnogi Andy,” meddai. “Rydw i’n meddwl y byddai’n brif weinidog gwych, ond ei benderfyniadau ef yw’r rheini, nid fy rhai i.”

Ychwanegodd Ms Reeves na allai “neb amau” ei hymrwymiad i Syr Keir dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydw i wedi bod wrth ei ochr ers chwe blynedd bellach fel canghellor cysgodol yr wrthblaid ac yna fel Canghellor y Trysorlys,” meddai.

“Rydw i’n gwybod y bydd pwy bynnag fydd yn brif weinidog ac yn ganghellor yn y dyfodol yn etifeddu economi gryfach na’r un a etifeddais i ddwy flynedd yn ôl.”

Bydd yr enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn agor ar 9 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.