Burnham 'ddim am alw etholiad cyffredinol yn gynnar'
Mae Prif Weinidog y DU Andy Burnham wedi dweud na fydd yn galw etholiad cyffredinol yn gynnar.
Wrth siarad cyn cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur, fe ddywedodd ei fod yn canolbwyntio ar helpu pobl gyda chostau byw a chefnogi busnesau.
Mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu bod sefyllfa Llafur wedi gwella ers i Burnham gael ei benodi yn Brif Weinidog, er nad yw Reform UK a’r Ceidwadwyr ymhell ar ei ôl.
Byddai etholiad cyffredinol cynnar yn galluogi Burnham i gael ei fandad ei hun a'i ryddhau o ymrwymiadau a gafodd eu gwneud yn maniffesto Llafur yn 2024.
Mae'n rhaid i'r etholiad cyffredinol nesaf gael ei gynnal erbyn mis Awst 2029.
Wrth gael ei holi os mai yn 2029 fydd yr etholiad nesaf, dywedodd Burnham: "Ia, dyna pryd fydd o'n cael ei gynnal.
"Mae'r holl ddyfalu yma am etholiad cynnar, gallaf roi diwedd ar hynny rŵan."
Dyma gynhadledd gyntaf Llafur i Mr Burnham fel prif weinidog, gyda’r posibilrwydd o etholiad cynnar yn debygol o fod yn destun sgwrs ymhlith rhai sy’n mynychu’r digwyddiad yn Lerpwl.
Ychwanegodd mai'r ffocws yw "helpu pobl gyda chostau byw, help0u busnesau gyda'r costau o redeg busnes.
"Mae’n rhaid i’r rhain fod yn flaenoriaethau ar hyn o bryd, yn hytrach na thaflu’r wlad i broses sy’n edrych am yn ôl, lle rydyn ni’n dadlau unwaith eto ymhlith ein gilydd.
Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu y byddai Llafur yn colli ei mwyafrif ond yn parhau fel y blaid fwyaf yn Nhŷ’r Cyffredin pe bai etholiad sydyn yn cael ei gynnal.