Buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton a Denton
Mae'r Blaid Werdd wedi ennill is-etholiad Gorton a Denton mewn canlyniad hanesyddol yng ngogledd orllewin Lloegr.
Dyma'r is-etholiad gyntaf erioed i'r blaid ei hennill ar gyfer San Steffan.
Bydd y canlyniad yn ergyd sylweddol i Syr Keir Starmer a'r Blaid Lafur.
Daeth Llafur yn drydydd ar ôl Plaid Werdd Zack Polanski, gyda Reform UK yn dod yn ail.
Hannah Spencer, cynghorydd a phlastrwr lleol ddaeth i'r brig dros y Gwyrddion gyda 14,980 o bleidleisiau a mwyafrif o 4,402.
Cafodd ymgeisydd Reform UK, Matt Goodwin, 10,578 o bleidleisiau, gydag Angeliki Stogia o Lafur yn derbyn 9,364 o bleidleisiau, i lawr o 18,555 yn etholiad cyffredinol 2024, pan oedd y nifer a bleidleisiodd yr un mor uchel.
Dim ond 706 o bleidleisiau a gafodd yr ymgeisydd Ceidwadol Charlotte Cadden, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 653 o bleidleisiau.
'Ton enfawr'
Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, yn dilyn y fuddugoliaeth: “Os gwelwn ni newid fel hyn yn yr etholiad cyffredinol nesaf, bydd ton enfawr o ASau Gwyrdd newydd.
“Pan gefais fy ethol yn Arweinydd y Gwyrddion, dywedais ein bod ni yma i gymryd lle Llafur ac roeddwn i o ddifrif.
“Roedd Hannah yn ymgeisydd gwych a gwn y bydd hi’n AS gwych.”
Ychwanegodd: “Arferai hon fod yn un o seddi mwyaf diogel Llafur. Yn yr isetholiad hwn, fe wnaeth bron i hanner eu pleidleiswyr yn 2024 eu gadael a newidiodd llawer i bleidleisio dros y Gwyrddion, sy’n golygu eu bod nhw wedi gorffen yn drydydd.
“Gwelodd y Blaid Werdd newid hanesyddol i’n cyfeiriad ni a gan fwy na threblu ein pleidlais."
Cafodd yr is-etholiad ym Manceinion ei chynnal wedi i’r cyn Aelod Seneddol Llafur Andrew Gwynne benderfynu ymddiswyddo ar sail problemau meddygol.
Roedd wedi bod yn y sedd fel AS annibynnol ers dechrau Chwefror y llynedd.
Roedd yn arfer bod yn AS Llafur cyn iddo gael ei wahardd o'r blaid.
Roedd 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr is-etholiad i gyd.
Llun: PA