Buddugoliaeth gyntaf i'r Alban yng Nghwpan y Byd mewn 28 mlynedd
Mae cefnogwyr yr Alban wedi bod yn dathlu dros nos ar ôl i'w tîm cenedlaethol ennill yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 28 o flynyddoedd.
Roedd cefnogwyr ledled y wlad wedi gwylio'r gêm yn erbyn Haiti a ddechreuodd am 02:00 fore Sul.
Dyma oedd gêm gyntaf Yr Alban yn y gystadleuaeth ers 1998.
Roedd gôl John McGinn ar ôl 29 munud yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth a sicrhau lle'r Alban ar frig grŵp C.
Fe wnaeth miloedd wylio'r gêm yn arena'r OVO Hydro yn Glasgow, lle'r oedd sgrin 20 metr o uchder wedi ei gosod.
Canodd cefnogwyr ganeuon drwy gydol y noson, gyda rhai yn canu "no Scotland no party" ar ôl y chwiban olaf.
I nodi ymddangosiad cyntaf yr Alban yng Nghwpan y Byd ers 1998, bydd yr Albanwyr yn cael mwynhau gwyliau gŵyl y banc ddydd Llun.
Yn y gêm arall yng ngrŵp C, fe wnaeth Moroco sgorio'n gynnar, cyn i Brasil unioni'r sgôr cyn hanner amser.
Nid oedd yr un tîm yn gallu sicrhau buddugoliaeth, gan olygu mai'r Albanwyr sydd ar frig eu grŵp.
Fe fydd Yr Alban yn herio Moroco yn eu gêm nesaf am 23:00 ar nos Wener, 19 Mehefin.

