Bron i 1,000 wedi’u harestio yn Ffrainc ar ôl diwrnod arall o brotestiadau

Protestiadau yn Perpignan
Protestiadau yn Perpignan

Mae bron i 1,000 o bobl wedi’u harestio yn Ffrainc ddydd Sadwrn wrth i ddegau o filoedd ymuno â phrotestiadau.

Dywedodd gweinidog mewnol Ffrainc, Laurent Nunez, brynhawn Sadwrn fod bron i 1,000 o bobl wedi’u harestio ledled y wlad hyd yma.

Daw hynny wrth i filoedd o bobl ymgynnull mewn trefi a dinasoedd ar draws Ffrainc i brotestio yn erbyn y cynnydd yng nghostau byw.

Dechreuodd y protestiadau gan fyfyrwyr ym Mharis y mis diwethaf.

Erbyn y penwythnos diwethaf, roedd y mudiad wedi arwain at aflonyddwch a thrais mewn dinasoedd ledled y wlad.

Roedd awdurdodau Ffrainc wedi gosod cyrffiw mewn rhannau o ganol Paris a dinasoedd eraill er mwyn ceisio atal rhagor o anhrefn.

Caeodd nifer o brif amgueddfeydd Paris ddydd Sadwrn, wrth i’r awdurdodau anfon miloedd o blismyn i’r strydoedd yn y gobaith o osgoi ailadrodd digwyddiadau’r penwythnos diwethaf, pan gafodd adeiladau cyhoeddus eu llosgi a’u difrodi.

Yn Limoges yng nghanolbarth Ffrainc, bu bron i dân sy'n cael ei amau o gael ei gynnau’n fwriadol ddinistrio neuadd y ddinas o’r 19eg ganrif.

Dywedodd Laurent Nunez fod hyd at 70,000 o swyddogion heddlu wedi’u hanfon ledled Ffrainc ddydd Sadwrn, ynghyd â hofrenyddion a chanonau dŵr.

Roedd y mudiad Mouvement des gilets jaunes a chwaraeodd ran allweddol yn y protestiadau y penwythnos diwethaf, wedi dweud yn gynharach fod mwy na 700 o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ledled Ffrainc ddydd Sadwrn.

Er mwyn ceisio atal aflonyddwch, roedd yr heddlu ym Mharis wedi atafaelu nifer o eitemau, gan gynnwys cyllyll, masgiau nwy a batonau.

Llun: Reuters
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.