‘Breuddwyd yn dod yn wir’: Y cwpl cyntaf i briodi ar Bier Bangor
‘Breuddwyd yn dod yn wir’: Y cwpl cyntaf i briodi ar Bier Bangor
Bydd clychau priodas i'w clywed ar y Fenai y mis hwn wedi i gwpwl o Fangor drefnu eu 'priodas berffaith' ar bier y ddinas.
Sean Kelly a Nicky Eccles fydd y cwpwl cyntaf i briodi ar Bier y Garth mewn 130 mlynedd o'i hanes.
Ar ôl dyweddïo ar ddydd Nadolig 2020, mae Sean a Nicky wedi treulio'r pum mlynedd yn pendroni am le i briodi.
Ond ym mis Mai eleni, cafodd y briodferch syniad am leoliad "unigryw".
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Sean: “Roedden ni yma ar gyfer dathliadau 130 mlynedd y pier ac fe wnaethon ni sgwrsio hefo'r ymddiriedolwyr, a nath Nic droi rownd a dweud ei bod wastad wedi bod eisiau priodi ar Bier Bangor.
"Ac felly beth bynnag mae Nic yn dymuno, mae Nic yn gael."
Ychwanegodd Nicky: “Wel, mae'n debyg fod hynny'n wir. Dwi wedi cerdded ar y pier ym mhob tywydd, felly mae'n berffaith."
'Penderfynol'
Adeiladwyd y pier ym 1896 ac mae bellach yn cael ei reoli gan elusen Ffrindiau Pier Garth Bangor, ar y cyd â Chyngor Dinas Bangor.
Ar ôl cytuno ar y darpar leoliad, cysylltodd y cwpwl â’r elusen ym mis Mai er mwyn holi ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnal priodas ar yr atyniad Fictorianaidd.
Dywedodd Avril Wayte, Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor: “Da ni wedi meddwl am sbel fysa ni’n gallu cael priodasau ar y pier, a oedd na’m byd 'di digwydd achos sa ni 'di goro’ cael leishans a pethau ag oedd o i weld yn reit gymhleth.
“Oeddan ni’n meddwl ella gadael o a cael blessings ar y pier, ond nath ddim byd ddod o hynny chwaith.
“A wedyn wrth gwrs nath Sean a Nicky ddod aton ni mis Mai a deud tybed sa ni’n medru priodi ar y pier?
“I fod onast, neshi roi bob math o obstacles yn ffor nhw fel, ‘o mae’n costio lot, o mae’n mynd i fod yn anodd’.
“Dim am bod ni’m isho fo i ddigwydd ond am bod ni’n gweld lot o bethau fysa’n gorfod cael eu delio hefo.
“Ond oeddan nhw’n deud ‘ie, fine, nawni ddelio efo hynny i gyd,’ so natho’n ni ddeud, ‘ok, mae’r freuddwyd yn medru dod yn wir,’ achos mae genna ni gwpl sydd mor benderfynol o briodi ar y pier, da ni’n actually gallu neud y peth ddigwydd.
“A di nhw’m hyd yn oed yn meindio os di’n bwrw!”
'Llawn atgofion'
Ar ôl gosod dyddiad i briodi ym mis Medi, roedd gan y cwpwl lai na dri mis i wneud yr holl drefniadau. Ond roedd sawl rheswm pam bod yr atyniad yn agos at galonnau Nicky a Sean.
Dywedodd Sean: “Roedd o'n le da i ddod pan oedd gen ti ganser y fron, yndoedd. Lle braf iawn. Da ni di cerdded i fyny ac i lawr hi sawl tro ac mae'r olygfa yn wych, allwch chi ddim ei guro."
Ychwanegodd Pat Abel, mam y briodferch: “Dw i’n dod yma’n aml. Cafodd lludw Peter, fy nghyn-bartner, ei ryddhau oddi ar ddiwedd y pier, felly bydd o yma hefyd. Mae’n le sy’n llawn atgofion i ni.”
Roedd y newyddion o leoliad y briodas yn “syndod” i deulu a ffrindiau agos y cwpwl.
Dywedodd Moi Kelly, mab Sean a’r gwas priodas: “O’n i’n surprised, yn shocked rili oherwydd doeddwn i’m yn gwybod bo chdi’n gallu rili ‘neud o.
“Pan naethon nhw ddweud nhw di’r pobol gynta i neud o, o’n i’n shocked rili. Eitha cyffrous i weld o’n digwydd.”
'Braint'
Yn mesur 460 metr o hyd, Pier y Garth yw’r ail hiraf yng Nghymru a’r nawfed hiraf yn y DU.
Gyda’r seremoni yn cael ei chynnal ger y pafiliwn ar ben pellaf y strwythur, mae’r cwpwl yn cynghori gwesteion i wisgo esgidiau addas – ac efallai dod ag ymbarél.
Ychwanegodd Pat: “Nes i feddwl, brilliant, byddai hynny’n hyfryd cyn belled â bod y tywydd yn braf.
"Dydw i ddim yn mynd i brynu het fawr – dyna un peth dydw i ddim yn mynd i’w brynu – ond efallai ymbarél. Ond gawn ni weld. Achos alla i ddim gweld unrhyw un o’r bechgyn yn neidio i mewn i achub fy het os bydd hi’n hedfan i ffwrdd.”
Dywedodd Sean: “Mae’n fraint, a dweud y gwir. Rydyn ni’n lwcus. Mae’n rhywbeth rydyn ni’n synnu nad yw wedi cael ei wneud o’r blaen.
"A phan wnaethon ni ddarganfod nad oedd wedi cael ei wneud o’r blaen, roedden ni’n meddwl, wel, mae angen gwneud hyn."
Dywedodd Nicky: “Ond heb gymorth yr ymddiriedolwyr a phawb sydd ynghlwm â’r peth, fyddai hyn ddim yn digwydd.
"Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth ganddyn nhw. Maen nhw eisiau hyn i ddigwydd cymaint â ni. Felly mae'r holl beth yn gweithio law yn llaw, a dweud y gwir.
"Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod hyfryd.”

