Brett Johns: 'Hoffwn ddychwelyd i'r UFC am un ornest olaf pe bai yng Nghymru'
Mae'r cyn-ymladdwr MMA o Gymru, Brett Johns, wedi dweud y byddai'n ystyried dod allan o ymddeoliad am un ornest olaf pe bai'r UFC yn cynnal digwyddiad yng Nghymru.
Daw ei sylwadau wedi i ddigwyddiad UFC Fight Night yng Nghaerdydd ymddangos ar wefan yr UFC yn gynharach yr wythnos hon, cyn i'r dudalen gael ei thynnu i lawr.
Roedd y digwyddiad wedi'i restru ar gyfer Stadiwm Principality ar 11 Rhagfyr, sef yr union ddyddiad a'r lleoliad a gornest focsio Tyson Fury ac Anthony Joshua.
Doedd dim ymladdwyr wedi'u henwi ar gyfer y digwyddiad UFC, ac nid yw'r sefydliad wedi cadarnhau cynlluniau i gynnal noson o ornestau yng Nghymru.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Johns y byddai'r cyfle i ymladd yn Stadiwm Principality yn ddigon i'w demtio'n ôl i'r gamp am un ornest arall.
"Wrth gwrs, os fi'n clywed rhywbeth fel hwnna'n digwydd, bydde fi'n dweud, 'look, I'd like to have a one-off fight' os ni'n gallu mynd ar gerdyn enfawr.
"Fel, fi wedi ymddeol, Ond os ti'n cael cerdyn mawr, I would happily take a one-off fight."
Wrth drafod y posibilrwydd o'r UFC yn cynnal digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd Johns ei fod yn credu y gallai digwyddiad yn Stadiwm Principality roi hwb sylweddol i MMA yng Nghymru.
"Fi'n credu bydd e'n helpu'r gamp mor gymaint yng Nghymru i weld cerdyn dod i Gymru, a gweld e just first hand fel mae fe'n digwydd, yr atmosffer, popeth.
"Ti'n rhoi'r cerdyn iawn arno, ti'n sôn am big, big, big response."
Er iddo bwysleisio bod y tebygolrwydd o ddychwelyd i'r gamp yn fach iawn, dywedodd Johns y byddai'n ystyried y cynnig pe bai Prif Weithredwr yr UFC, Dana White, yn rhoi'r cyfle iddo.
"Os mae rhywun fel Dana White yn dweud, 'Oh look Brett, you know, we'd have you back for a one-off fight', of course byddai fi'n meddwl amdano fe.
"Mae hwnna'n freuddwyd i fi, i ymladd mas yn y Principality."
Cyhoeddodd Johns, sy'n 34 oed ac yn dod o Bontarddulais yn Abertawe, ei ymddeoliad o MMA ym mis Rhagfyr 2025 wedi gyrfa broffesiynol o dros 13 mlynedd.
Daeth ei ornest olaf yn erbyn Nikolay Grozdev ym Madrid, lle collodd yn yr ail rownd wrth geisio ennill pencampwriaeth pwysau plu WOW.
Gorffennodd ei yrfa gyda record o 21 buddugoliaeth a chwe cholled mewn 27 o ornestau proffesiynol.
Roedd yn un o arloeswyr MMA yng Nghymru, a fe oedd y Cymro cyntaf i gystadlu mewn ornest UFC pan gurodd Kwan Ho Kwak ym Melffast ym mis Tachwedd 2016.
Enillodd bump o'i saith gornest yn yr UFC, gan orffen ei gyfnod gyda'r sefydliad gyda buddugoliaeth dros Montel Jackson yn 2020.
Un o uchafbwyntiau ei gyfnod yn yr UFC oedd ei fuddugoliaeth dros Joe Soto yn 2017, pan orfododd yr Americanwr i ildio drwy ddefnyddio symudiad 'calf slicer' ar ôl 30 eiliad yn unig.
Hon oedd yr ail fuddugoliaeth drwy'r dechneg honno yn hanes yr UFC, ac fe enillodd Johns wobr Perfformiad y Noson.
Roedd hefyd yn bencampwr pwysau bantam Cage Warriors a Titan FC cyn ymuno â'r UFC, ac wedi gadael y sefydliad fe aeth ymlaen i ymladd i Bellator a'r Professional Fighters League.
