Y bocsiwr o Gaerdydd Joe Cordina wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddyn arall
Mae llys wedi clywed bod y bocsiwr o Gaerdydd, Joe Cordina, wedi ei gyhuddo ymosod ar ddyn arall y tu allan i orsaf betrol.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher fod cyn-bencampwr bocsio'r byd, a dyn arall, Jamie O'Brien, wedi eu cyhuddo o ymosod yn dilyn y digwyddiad ar 27 Chwefror eleni.
Mae Mr Cordina hefyd wedi cael ei gyhuddo o fygwth person ag arf mewn man cyhoeddus.
Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad blaenorol fod y cyhuddiadau mewn cysylltiad â digwyddiad y tu allan i Orsaf Betrol Pentwyn.
Wrth siarad yn y llys, dywedodd Jeanine Robinson ar ran yr erlyniad fod y troseddau honedig y mae'r ddau ddyn wedi cael eu cyhuddo o'u cyflawni "yn erbyn ei gilydd."
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan 28 Gorffennaf.
Mae disgwyl i Jamie O'Brien fod yn bresennol yn y gwrandawiad hwnnw.
Dywedodd y Barnwr Ardal Charlotte Murphy bod angen i Joe Cordina fod yn bresennol yn y gwrandawiad hwnnw hefyd.
Roedd disgwyl i Joe Cordina focsio am deitl pwysau ysgafn WBO yn yr Unol Daleithiau ar 4 Gorffennaf, ond cafodd ei gais am fisa ei wrthod.